Bydd y polisi hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â rhaglenni Meistr ôl-raddedig a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe a/neu gyda sefydliadau partner cymeradwy mewn trefniant cydweithredol. 

1.    Cyfrifoldeb

1.1

Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner ddarparu cyngor ac arweiniad i’r myfyriwr gyda’r nod o hwyluso cynhyrchu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd hyd at y safon sy’n angenrheidiol ar gyfer gradd Meistr a addysgir.  Bydd y gwaith yn eiddo’r myfyriwr, (cyfrifoldeb y myfyriwr yw’r cynnwys), er y bydd wedi’i gyflawni gyda chyngor ac arweiniad y goruchwyliwr.

1.2

Fel arfer, dyrennir un goruchwyliwr i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Gellir dyrannu prif oruchwyliwr ac ail oruchwyliwr i fyfyrwyr sy’n ymgymryd â rhaglen gydweithredol ar y cyd â sefydliad partner. Yn arferol, darperir goruchwyliaeth gan Abertawe a'r partner, lle bo'n briodol, ar gyfer rhaglenni cydweithredol.

1.3

Dylai goruchwylwyr fod yn hynod ofalus wrth roi sylwadau i fyfyrwyr am ganlyniad terfynol y radd sy'n seiliedig ar y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd. Hynny yw, ni ddylai goruchwylwyr geisio rhagweld y bydd y myfyriwr yn pasio gyda theilyngdod neu ragoriaeth.

1.4

Gofynnir i fyfyrwyr amser llawn fynychu sesiynau yn y Brifysgol neu’r sefydliad partner ar gyfer hyd y rhaglen, oni bai bod y rhaglen yn cynnwys cyfnodau o astudio/ymchwil a gynhelir i ffwrdd o Brifysgol Abertawe neu’r sefydliad partner, a rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer goruchwylio pan fyddant yn ymgymryd â’r dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd.  Rhaid i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau’r elfen a addysgir o’u rhaglen ac sydd am resymau personol yn dymuno cwblhau’r elfen dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd i ffwrdd o Brifysgol Abertawe neu’r sefydliad partner ofyn am ganiatâd gan Ddeon Gweithredol y Gyfadran /yr Ysgol , neu unigolyn cyfatebol yn y sefydliad partner, neu unigolyn a enwebwyd ganddo ynghyd â’r Tîm Cydymffurfiaeth Fisâu (yn achos myfyrwyr sydd â nawdd fisa gan y Brifysgol). Dylai myfyrwyr sydd â nawdd fisa nodi, os caiff eu cais ei gymeradwyo, byddai eu fisa myfyriwr yn cael ei gwtogi, oherwydd na fyddant yn dychwelyd i’r DU. Dylid nodi na fyddai myfyrwyr y mae eu fisa wedi cael ei gwtogi’n gymwys i gyflwyno cais am fisa gwaith ôl-astudio'r Llwybr i Raddedigion. Rhaid i fyfyrwyr ymgysylltu â goruchwyliaeth pan fyddant i ffwrdd o Brifysgol Abertawe. Gall myfyrwyr sy’n absennol heb awdurdodaeth gael eu tynnu’n ôl o’r Brifysgol yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr a Addysgir. 

2.    Dewis Pwnc

2.1

Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner, naill ai ar y cyd neu trwy unigolyn dynodedig (Cyfarwyddwr y Rhaglen), sicrhau bod y pynciau'n addas ar gyfer rhaglen gradd ôl-raddedig Meistr a Addysgir yn ymwneud ag ymchwil. Disgwylir y byddai'r pwnc, fel arfer, yn cael ei gytuno cyn cwblhau Rhan Un yn achos myfyrwyr ar raglenni meistr safonol, ac fel mae'r Gyfadrann/Ysgolion/sefydliadau partner yn penderfynu yn achos myfyrwyr ar raddau estynedig neu hyblyg. Dylid cofnodi'r pwnc ar y daflen Cofnod Goruchwylio (gweler 5.1).

2.2

Dylai'r cynnig fod, yn gyffredinol, ym maes arbenigedd y Goruchwyliwr neu'r Goruchwylwyr.

2.3

Dylid pennu'r pwnc ar ôl trafodaeth rhwng y myfyriwr a'r goruchwylwyr, a dylai gael ei gymeradwyo'n ganolog gan y Gyfadran/Ysgol/sefydliadau partner. Lle bo modd, dylid dylunio pynciau fel bod modd i fwy nag un aelod o staff gynorthwyo'r myfyriwr. Dylid hysbysu'r myfyriwr am enwau staff sydd yn gymwys i'w gynorthwyo.

2.4

Caiff ymgeiswyr ar raglenni safonol ddechrau gwaith rhagarweiniol ar y dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn ystod Rhan Un y rhaglen, ond ni chânt gyflwyno'r gwaith tan ar ôl iddynt lwyddo yn Rhan Un. Gwahoddir ymgeiswyr ar raglenni Estynedig neu Hyblyg i ddechrau gwaith paratoi ar eu dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd yn unol â chyfarwyddiadau eu Cyfadran/Hysgol.

3.    Amserlen

3.1

Dylid cytuno'r cynnig yn unol â dyddiad cau'r Brifysgol ar gyfer cyflwyno gwaith, a dylai fod yn addas i gael ei gwblhau o fewn yr amser a bennir.

3.2

Dylai myfyrwyr sy'n wynebu problemau personol neu feddygol annisgwyl hysbysu eu Cyfadrannau/Hysgolion/sefydliadau partner cyn gynted â phosibl. Caiff Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner ystyried gofyn am estyniad i'r amserlen.

4.    Amserlen Goruchwylio

4.1

Mae’r Brifysgol yn gofyn i’r Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner gynnal o leiaf dri chyfarfod gorfodol ffurfiol. Lle bo modd, dylai’r rhain fod yn gyfarfodydd rhwng y Goruchwyliwr a’r myfyriwr, fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, gellir darparu goruchwyliaeth ar-lein e.e. drwy Zoom neu Teams. Caiff presenoldeb myfyrwyr yn y cyfarfodydd hyn ei fonitro. Gall Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner ddarparu goruchwyliaeth ychwanegol os ydynt yn  dymuno gwneud hynny.  Os oes angen cyfarfodydd ychwanegol ar Gyfadrannau/Ysgolion /sefydliadau partner, dylen nhw roi gwybod i’r myfyriwr am y gofynion hyn drwy Canvas neuLawlyfr y Myfyrwyr . 

4.2

Fel arfer, disgwylir i'r un goruchwyliwr fod yn bresennol ym mhob un o'r cyfarfodydd hyn.

4.3

Rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner sicrhau bod staff cyflenwi ar gael i fyfyrwyr rhag ofn y bydd staff yn absennol, gan gynnwys gwyliau neu salwch.  Dylai Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybod am drefniadau cyflenwi y tu allan i semestrau/dymhorau .

4.4

Cedwir cofnod o fyfyrwyr sy'n methu mynychu cyfarfodydd a bydd y fath gofnod ar gael i Fyrddau Arholi / Pwyllgorau Apêl.

4.5

Rhaid i bob Cyfadran /Ysgol/sefydliad partner  gynnal o leiaf dri chyfarfod ffurfiol ar gyfer myfyrwyr amser llawn fel a amlinellir isod.  Yn achos myfyrwyr rhan-amser, gall fod yn fwy priodol cynnig cyfarfodydd ychwanegol i fonitro cynnydd yn eu hastudiaethau ac fe argymhellir cynnal o leiaf bedwar cyfarfod. Caiff cofnod ei gadw gan gynnwys dyddiadau, camau gweithredu cytunedig a dyddiadau cau a bennir a chytunir ar hwn rhwng y myfyriwr a’r goruchwyliwr (mae templed argymelledig ar gael gan y Gwasanaethau Addysg). Y myfyriwr fydd yn gyfrifol am gynnal y cofnod hwn a bydd yn ei gyflwyno ar y cyd â’r gwaith. Dylai goruchwylwyr gadw copi o’r cofnod hwn.

Disgwylir i’r myfyrwyr gwrdd â’r goruchwyliwr wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, cydnabyddir efallai na fydd hyn yn bosib yn achos rhai rhaglenni e.e. rhaglenni dysgu o bell. Mewn amgylchiadau o’r fath, disgwylir i’r Gyfadran /Ysgol/sefydliad partner/myfyriwr gadw cofnod ffurfiol o’r cyfarfod, gan gynnwys cyfeirio at fformat y cyfarfod e.e. e-bost, cynhadledd fideo, dros y ffôn.  Rhaid i fyfyrwyr sy’n ymgymryd ag ymchwil i ffwrdd o’r Brifysgol neu’r sefydliad partner neu sy’n gadael oherwydd rhesymau personol, ofyn am ganiatâd absenoldeb gan y Deon Gweithredol , unigolyn cyfatebol yn y sefydliad partner, neu unigolyn a enwebwyd ganddo.   

4.5.1 Cyfarfod 1

Yn achos rhaglenni Meistr, cynhelir y cyfarfod cyntaf ar unwaith ar ôl cadarnhau bod y myfyriwr wedi cwblhau Rhan Un. Yn achos yr holl raglenni eraill, caiff dyddiad y cyfarfod cyntaf ei bennu gan y Gyfadran /Ysgol/sefydliad partner  a chaiff hwn ei gyhoeddi ar Canvas neu Lawlyfr y  Myfyrwyr.

Dylid defnyddio’r cyfarfod hwn i ffurfioli cynllun gwaith manwl, pennu dyddiadau cau ar gyfer cwblhau gwaith a thrafod y strwythur.

Argymhellir hefyd y dylid defnyddio’r cyfarfod hwn i sicrhau bod y myfyriwr yn deall y materion sy’n gysylltiedig â chamymddygiad academaidd (gan gynnwys comisiynu a llên-ladrad) a’r arddull gyfeirnodi angenrheidiol. 

4.5.2 Cyfarfod 2

Yn achos rhaglenni Meistr safonol amser llawn, dylid cynnal ail gyfarfod ar ddiwedd mis Gorffennaf neu yn gynnar ym mis Awst, fel arfer. Yn achos yr holl raglenni eraill, caiff dyddiad yr ail gyfarfod ei bennu gan y Gyfadran/ Ysgol/sefydliad partner a’i gyhoeddi i fyfyrwyr ei weld yn Canvas neu Lawlyfr y Myfyrwyr.

Yn achos myfyrwyr rhan-amser sy’n astudio rhaglenni Meistr safonol, cynhelir y cyfarfod hwn fel arfer erbyn mis Tachwedd. Efallai bydd Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner am gynnal cyfarfod arall i fonitro cynnydd myfyrwyr rhan-amser. 

Gall Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner/myfyrwyr ddefnyddio’r cyfarfod hwn i drafod cynnydd a fersiynau drafft o’r gwaith.  Dylai goruchwylwyr sicrhau bod myfyriwr yn gallu cwblhau’r gwaith yn unol â’i gynllun gwaith o hyd.

Yn achos myfyrwyr amser llawn, dylid nodi unrhyw broblemau y gall fod angen gwneud cais am estyniad ar eu cyfer (megis anawsterau personol/salwch a fydd yn effeithio ar eu gallu i gwblhau’r gwaith mewn da bryd) yn ystod y cyfarfod hwn a dylai Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner ystyried a ydyn nhw am gyflwyno cais am estyniad ar y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r gwaith. 

Dylid nodi y bydd ceisiadau gan fyfyrwyr amser llawn am estyniad fel arfer yn cael eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr, ar ddechrau mis Medi ac, felly, dylai ceisiadau gael eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol erbyn diwedd mis Awst. Gall dyddiadau amrywio ar gyfer rhaglenni cydweithredol a gyflwynir ar y cyd â sefydliadau partner. Caiff dyddiadau cau penodol eu cylchredeg i’r Cyfadrannau/Ysgolion yn ystod pob sesiwn.  Dylai ceisiadau am estyniad gael eu cyflwyno, gan y Gyfadran /Ysgol/sefydliad partner, i’r Gwasanaethau Addysg. 

4.5.3 Cyfarfod 3 - (myfyrwyr rhan-amser yn unig)

Mae'n bosibl y bydd Gyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner  dymuno cynnal cyfarfod ychwanegol yn achos myfyrwyr rhan-amser i fonitro cynnydd ac i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gorffen eu gwaith o fewn yr amserlen yn y cynllun gwaith o hyd. Caiff adrannau drafft eu trafod yn y cyfarfod hwn hefyd.

Dylid nodi unrhyw broblem a allai arwain at gais am estyniad (megis anawsterau personol/ salwch) yn y cyfarfod hwn, a dylai Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner ystyried a ydynt am gyflwyno cais am estyniad i'r dyddiad cau.

4.5.4 Cyfarfod Olaf

Dylid cynnal trydydd cyfarfod - fel arfer y cyfarfod olaf - tua un mis yn ddiweddarach (yn achos myfyrwyr amser llawn). Dylai hyn ganiatáu gwelliannau terfynol.

Yn achos myfyrwyr rhan-amser ar raglenni meistr safonol, dylid cynnal y cyfarfod hwn ym mis Medi, 15 mis ar ôl cwblhau Rhan Un (cyfarfod Mehefin y Bwrdd).

Bydd y cyfarfod yn cynnwys adroddiad ar gynnydd y myfyriwr a dylid trafod drafft o'r gwaith terfynol. Disgwylir y bydd myfyrwyr yn darparu drafft o'r gwaith terfynol mewn da bryd fel bod modd i Oruchwylwyr ei ddarllen a rhoi sylwadau arno yn y cyfarfod. Disgwylir i oruchwylwyr wneud sylwadau cyffredinol ar y drafft, ond ni ddisgwylir iddynt ei brawf-ddarllen neu gywiro gwallau teipio ac yn y blaen.

5.    Cyflwyno

5.1

Disgwylir y bydd myfyrwyr yn cyflwyno copi o gofnod ysgrifenedig eu cyfarfodydd goruchwylio ffurfiol i'r Gyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner l. Mae'r Brifysgol yn argymell yn gryf bod Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner, lle bynnag y bo modd, yn defnyddio'r templed sydd ar gael o'r Gwasanaethau Addysg.

5.2

Cedwir y cofnod hwn yn ffeil y myfyriwr o fewn y Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner , a gellid ei ddarparu i'r Gwasanaethau Addysg yn achos unrhyw apêl.

6.    Ailgyflwyno

6.1

Yn achos myfyrwyr sy'n methu'r elfen ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar y cais cyntaf, ac sy'n cael caniatâd i ailgyflwyno eu gwaith, dylid darparu un sesiwn adborth ffurfiol. Dylai hyn gynnwys adborth ysgrifenedig ar y rhesymau am y methiant, a dylid ei gynnal yn syth ar ôl i Dilyniant a Dyfarnu’r Brifysgol gadarnhau'r canlyniad.

6.2

Dylai Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner sicrhau bod yr adborth yn adlewyrchu holl sylwadau’r arholwyr (y rhai mewnol, a'r rhai allanol hefyd lle bo'n berthnasol) a bod y myfyriwr yn cael gwybod am y newidiadau angenrheidiol.

6.3

Yna bydd Cyfadrannau/Ysgolion/sefydliadau partner neu Cydymffurfiaeth Fisa yn gyfrifol am gofnodi ymgysylltiad myfyrwyr ar ffurf gwiriadau lles am weddill y cyfnod ailgyflwyno. Does dim hawl gan fyfyrwyr i gael goruchwyliaeth ychwanegol.

6.4

Bydd myfyrwyr sy'n ailgyflwyno eu gwaith yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ofynion y Polisi Monitro Ymgysylltu ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil a bydd disgwyl iddynt ymgysylltu'n llawn â'u hastudiaethau yn ystod y cyfnod ailgyflwyno. Bydd myfyrwyr yn cael eu monitro bob pedair wythnos hyd at y pwynt cyflwyno o fewn y terfyn amser a bennwyd ar gyfer myfyrwyr amser llawn a rhan-amser a byddant yn dal i fod yn destun y broses uwchgyfeirio am resymau nad ydynt yn ymgysylltu.

Gall myfyrwyr sy’n ymgymryd â rhaglenni ar y cyd â sefydliadau partner fod yn destun y polisi monitro cyfranogiad perthnasol ar gyfer y sefydliad hwnnw. Darperir manylion yn y llawlyfr i fyfyrwyr. 

Trefn Arfaethedig

3 digwyddiad ar gyfer myfyrwyr amser llawn neu 6 i fyfyrwyr rhan-amser sydd â hawl i ailgyflwyno i'w hychwanegu at y system ar ôl cyhoeddi canlyniadau swyddogol y Brifysgol.

Bydd y tîm Monitro Ymgysylltu yn derbyn rhestr o fyfyrwyr o'r tîm Asesu a Dyfarnu ac yn sefydlu digwyddiadau yn unol â hynny. Er enghraifft:

Meistr a Addysgir llawn amser ar gwrs sy’n dechrau ym mis Medi

Medi Cyflwyno’n gyntaf.
Tachwedd Penderfyniad cynnydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu - Ailgyflwyno am 3 mis. Sefydlu digwyddiadau.
Rhagfyr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Goruchwyliwr yn dilyn y cyfarfod i drafod adborth ysgrifenedig y myfyriwr. 
Ionawr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr.
Chwefror Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar ôl ailgyflwyno.

Meistr a Addysgir rhan-amser ar gwrs mynediad ym mis Medi 

Medi Cyflwyno’n gyntaf.
Tachwedd Penderfyniad cynnydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu - Ailgyflwyno am 6 mis. Sefydlu digwyddiadau.
Rhagfyr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Goruchwyliwr yn dilyn y cyfarfod i drafod adborth ysgrifenedig y myfyriwr. 
Ionawr  Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Chwefror Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Mawrth Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Ebril Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn dilyn ebost dros dro. 
Mai Gwiriad Ymgysylltu Systemau Rheoli Ymchwil i'w gwblhau gan y Gwasanaethau Proffesiynol neu Wasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr ar ôl ailgyflwyno.