1.1 CYFLWYNIAD
Mae'r Brifysgol yn gweithredu system asesu ar draws y campws. Bwriad y system yw ymdrin â dilyniant myfyrwyr ar bob lefel ac â dyfarnu cymwysterau.
1.2 AMLINELLIAD O’R STRWYTHUR PWYLLGORAU
Mae’r model isod yn dangos strwythur Prifysgol Abertawe ar gyfer rheoli dilyniant a dyfarniadau myfyrwyr. Mae Senedd y Brifysgol yn dirprwyo’r cyfrifoldeb am reoli’r broses o roi Dyfarniadau Prifysgol Abertawe a sicrhau ansawdd a safonau dyfarniadau a wneir yn enw’r Brifysgol i’r Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd. Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol, dan yr awdurdod a ddirprwywyd iddo gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd, sydd â chyfrifoldeb am oruchwylio proses asesu’r Brifysgol a chadarnhau penderfyniadau ynghylch dilyniant a dyfarniadau a gyflwynir iddo gan Fyrddau Arholi’r Ysgol/Pwnc.
1.3 BYRDDAU ARHOLI
1.3.1 Byrddau Arholi Ysgolion/Pynciau
Y Gyfadran/Ysgol sy’n gyfrifol am benderfynu ar farciau modiwlau ar gyfer pob myfyriwr sy’n astudio’i modiwlau. I ddechrau, a chan ddilyn confensiynau marcio caeth, pennir marciau dros dro. Bydd yn ofynnol i Gyfadrannau/Ysgolion gofnodi marciau dros dro ar y system asesu. Bydd y marciau hyn, ar y cyd â’r canlyniadau diwedd sesiwn neu, yn achos rhaglenni meistr hyblyg, y canlyniadau ar ddiwedd Semester Un ac ar ddiwedd y rhaglen , yn cael eu hystyried gan Gyfadrannau/Ysgolion drwy gyfrwng Byrddau Arholi Ysgolion/Pynciau. Bydd y Deon Gweithredol (neu enwebai) yn gyfrifol am benderfynu a gynhelir y Bwrdd Arholi ar lefel Pwnc neu Ysgol. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i ddyfarnu marciau ffiniol (marciau sy’n diweddu gydag ‘8’ neu ‘9’). Wedyn bydd y marciau a’r penderfyniadau dros dro’n cael eu cyflwyno i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol, a fydd yn cadarnhau’r penderfyniadau ynghylch dilyniant a dyfarniadau.
Bydd Bwrdd Arholi'r Ysgol/Pwnc hefyd yn ystyried tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol sy’n ymwneud â myfyrwyr unigol (dylai ysgolion fod yn ymwybodol o Bolisi’r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy’n Effeithio ar Asesiad”).
Dylai Byrddau Arholi Ysgolion/Pynciau sicrhau yr ymgynghorwyd yn llawn ac yn drylwyr ag Ysgolion/Pynciau eraill mewn perthynas â myfyrwyr cyd-anrhydedd.
1.3.2 Aelodaeth o Fyrddau Arholi Ysgolion
Cadeirydd: | Deon Gweithredol (neu enwebai). |
Prif Arholwr Allanol: | Un Arholwr Allanol i weithredu fel Prif Arholwr Allanol i lofnodi’r ffurflen cymeradwyo canlyniadau swyddogol. |
Arholwr Allanol: | Arholwr/Arholwyr Allanol perthnasol ar gyfer pob bwrdd lle gwneir argymhellion ynghylch dyfarniadau. |
Arholwr Mewnol: | Aelodau o staff a bennir gan yr Ysgol/Pwnc. |
Cynrychiolwyr Allanol: | Cynrychiolaeth o Ysgolion/Bynciau eraill lle y bo'n berthnasol. |
Ysgrifennydd: | I'w benderfynu gan y Deon Gweithredol neu'r enwebai. |
1.3.3 Cylch Gorchwyl Byrddau Arholi Ysgolion/Pynciau
Byrddau Arholi Ysgolion/Pynciau
- Sicrhau bod y rheolau a rheoliadau sy’n ymwneud â dilyniant yn cael eu cymhwyso’n gyson a bod y safonau hynny’n cael eu cynnal;
- Cadarnhau marciau ar gyfer modiwlau a addysgir gan y Ysgol/Pwnc;
- Cael argymhellion ynghylch amgylchiadau esgusodol a phenderfynu’n derfynol ar farciau;
- Pennu materion dilyniant, gan gyfeirio at y rheolau a rheoliadau, a dyfarnu asesiadau atodol;
- Yn achos myfyrwyr ar ddiwedd eu rhaglen astudio;
- Gwneud argymhellion ynghylch dyfarniadau dros dro ar gyfer graddau/tystysgrifau/diplomâu a chymwysterau eraill i Fyrddau Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol;
- Gwneud argymhellion ynghylch cymwysterau ymadael;
- Enwebu cynrychiolwyr i fynychu Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol ar ran y Ysgol/Pwnc;
- Llunio rhestrau llwyddo/ffurflenni cymeradwyo canlyniadau ar lefel pynciau a sicrhau bod y rhain yn cael eu llofnodi gan Brif Arholwr Allanol.
Bydd Byrddau Arholi Ysgolion/Pynciau yn cwrdd i benderfynu’n derfynol ar farciau myfyrwyr ar ddiwedd eu rhaglen. Rhaid i’r Arholw(y)r Allanol fod ar gael i ymgynghori ag ef/â hi/â hwy yn y cyfarfod hwn ac mae’n ofynnol iddo/iddi/iddynt lofnodi’r ffurflenni cymeradwyo canlyniadau yn dilyn y cyfarfod hefyd.
1.4 Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol
1.4.1
Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol yn gweithredu dan yr awdurdod a ddirprwywyd iddo gan y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd, ac yn goruchwylio proses asesu’r Brifysgol ac yn cadarnhau marciau a’r holl benderfyniadau ynghylch dilyniant a dyfarniadau. Hefyd, bydd y Bwrdd yn gyfrifol am fonitro ansawdd a safonau dyfarniadau a wneir yn enw’r Brifysgol. Rhaid i’r holl ddyfarniadau a argymhellir gan Fwrdd Arholi gael eu rhoi gan Fwrdd Dyfarniadau a Dilyniant y Brifysgol cyn y gellir cyflwyno Tystysgrifau a Thrawsgrifiadau.
1.4.2 Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol – Amodau Gorchwyl
- Monitro a sicrhau bod byrddau dilyniant a dyfarniadau’n ymlynu wrth ofynion rheoliadau academaidd ac asesu’r Brifysgol;
- Cymeradwyo argymhellion ynghylch dyfarnu graddau a chymwysterau eraill;
- Adrodd wrth y Pwyllgor Dysgu, Addysgu ac Ansawdd ar yr holl ddyfarniadau a roddir gan y Brifysgol;
- Cymeradwyo argymhellion gan fyrddau Cyfadrannau/Ysgolion a byrddau perthnasol eraill, ar faterion dilyniant gan gyfeirio at y rheoliadau asesu;
- Cael ac ystyried adroddiadau gan holl fyrddau dilyniant a dyfarniadau’r Cyfadrannau/Ysgolion a’r holl fyrddau perthnasol eraill;
- Pennu achosion lle bu afreolaidd-dra gweithdrefnol yn ystod trafodion byrddau dilyniant a dyfarniadau a lle gwnaed argymhelliad sy’n groes i’r Rheoliadau;
- Gwneud argymhellion ynghylch dirymu dyfarniadau;
- Adolygu, yn flynyddol, faterion sy’n ymwneud â’r broses asesu;
- Monitro ac adrodd ar ddangosyddion perfformiad allweddol mewn perthynas â chanlyniadau asesu;
- Cymeradwyo argymhellion ynghylch dyfarnu gwobrau;
- Goruchwylio’r broses o gymeradwyo enwebiadau i’r Bwrdd Arholi ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig;
- Gwneud argymhellion ynghylch rhoi dyfarniadau aegrotat ac ar ôl marwolaeth;
- Ystyried adroddiadau Arholwyr Allanol a sicrhau y rhoddir ymatebion priodol a hysbysu’r Pwyllgor Ansawdd a Safonau Academaidd ynghylch unrhyw faterion sy’n achos pryder.
1.5 MATERION Y MAE’N OFYNNOL I’R SENEDD EU CYMERADWYO
1.5.1 Argymhelliad ynghylch dirymu dyfarniad
Dylai Bwrdd Arholi wneud pob ymdrech i ddod i gonsensws. Yn achos anghytundeb rhwng yr Arholwr Allanol a'r Bwrdd Arholi perthnasol ynghylch safonau, dylid nodi barn yr Arholwr Allanol yng nghofnodion y Bwrdd ac yn adroddiad yr Arholwr Allanol. Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff yr Arholwr Allanol apelio at y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) neu at Ddirprwy Is-ganghellor arall (os na fydd y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) ar gael neu os bydd gwrthdaro buddiannau ganddo). Bydd penderfyniad y Dirprwy Is-ganghellor yn derfynol.
Pan fydd penderfyniad Arholwr Allanol yn achosi anghydfod rhwng yr Arholwr/Arholwyr Allanol a’r Arholwr/Arholwyr Mewnol, y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) sydd â’r hawl i ddod i benderfyniad, yn ôl ei ddoethineb, neu i benodi Arholwr Allanol arall i roi barn annibynnol. Caiff y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynir gan aelodau'r Bwrdd Arholi.
Wrth ddewis ail Arholwr Allanol, caiff y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) hefyd ystyried enwebiad (os oes un) ar gyfer ail Arholwr Allanol a wneir gan Fwrdd Arholi, er na fydd yn rhaid iddo ei dderbyn. Yr ail Arholwr Allanol hwn sydd â'r hawl i benderfynu a ddylid ailgynnull y Bwrdd Arholi ai peidio, a bydd ei benderfyniad ar y mater yn derfynol.
1.5.2 Anghydfodau rhwng Bwrdd Arholi’r Ysgol/Pwnc a Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol
Dylai penderfyniadau gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol neu gan Gadeirydd/Is-gadeirydd y Bwrdd hwnnw gael eu gwneud fel arfer yn unol â’r rheoliadau ac felly, bydd penderfyniadau o’r fath yn derfynol fel arfer. Dan amgylchiadau eithriadol lle ceir anghytundeb rhwng Bwrdd Arholi’r Ysgol/Pwnc a Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’r Brifysgol neu Gadeirydd/Is-gadeirydd y Bwrdd hwnnw o ran cymhwyso’r rheoliadau, gall Cadeirydd Bwrdd Arholi’r Ysgol/Pwnc apelio wrth y Dirprwy Is-ganghellor sy’n gyfrifol am Safonau ac Ansawdd. Bydd penderfyniad y Dirprwy Is-ganghellor yn derfynol.