13.1
Bydd gan bob Bwrdd Arholi ar gyfer graddau Meistr ôl-raddedig a Addysgir Gadeirydd a fydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithdrefnau gweinyddol cywir ar gyfer cyflwyno ac arholi’r gwaith yn cael eu dilyn.
13.2
Caiff yr holl waith ei farcio gan ddau aelod mewnol o staff, a dylai goruchwyliwr yr ymgeisydd hwnnw fod yn un ohonynt, fel arfer. Serch hynny, mewn rhai amgylchiadau efallai na fydd yn briodol i’r Goruchwyliwr fod yn farciwr.
13.3
Diffinnir rôl yr Arholwr Allanol yng Nghod Ymarfer Arholi Allanol Prifysgol Abertawe.
13.4
Fodd bynnag, os yw’n amhosibl penodi dau farciwr mewnol, dylai’r Gyfadran/Ysgol dalu marciwr allanol i fod yn ail farciwr a dylid gofyn i’r Arholwr Allanol wirio y cafwyd gwaith safoni.
13.5
Er ei bod yn arferol i’r un Arholwr Allanol arholi ymgeisydd ar gyfer Rhan Un a Rhan Dau, gellir penodi arholwr annibynnol i arholi’r gwaith os oes angen gwybodaeth arbenigol.
13.6
Gall Cyfadrannau/Ysgolion ddewis defnyddio rheoliadau samplu os ceir mwy na 10 o ymgeiswyr. Mae’r rheoliadau samplu fel a ganlyn:
O leiaf 10% o gyfanswm y darnau o waith (lleiafswm o 5) gan gynnwys o leiaf un darn o bob dosbarth (Llwyddo, Teilyngdod, Rhagoriaeth, lle y bo’n briodol). Yn ogystal â hyn, rhaid anfon bob darn o waith a fethwyd at yr Arholwr Allanol.
13.7
Caiff y marciau eu cymeradwyo yn ystod Ail Gyfarfod y Bwrdd Arholi (Cyfadran/Ysgol) a Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.
13.8
Gweler y Cod Ymarfer ar gyfer Arholi Allanol am fanylion y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag anghydfod neu anghytundeb.