Mae gwneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth y mae ei hangen arnoch i fod yn llwyddiannus ym Mhrifysgol Abertawe'n bwysig i ni. Yn ogystal â chyfathrebu electronig swyddogol drwy e-bost, mae gennym amrywiaeth o sianelau gwybodaeth i fyfyrwyr i sicrhau bod gennych yr wybodaeth ddiweddaraf.
Cofiwch wirio eich cyfrif e-bost Outlook yn y Brifysgol yn rheolaidd i sicrhau na fyddwch yn colli unrhyw wybodaeth bwysig gan y Brifysgol!
Dyma sut rydym yn anfon y newyddion diweddaraf gan y Brifysgol, deunyddiau allweddol y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt, a dyma lle byddwch yn derbyn gwybodaeth gan eich Cyfadran a'r staff yn eich Ysgol.
Eich Cyfrifoldebau
Wrth i chi gofrestru, byddwch wedi llofnodi’r Siarter Myfyrwyr lle rydych yn cytuno i rai cyfrifoldebau cyfathrebu, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn yr egwyddorion y cytunwyd iddynt.
Eich Cyfrifoldebau:
Rhaid i chi sicrhau bod eich cofnod myfyriwr yn gyfoes ar bob adeg fel y gall y Brifysgol gysylltu â chi. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cyfeiriad cartref ac yn ystod y tymor yn gywir ar eich cofnod academaidd. I ddiweddaru eich manylion:
- Mewngofnodwch i'r Fewnrwyd
- Dewiswch Personol Details o’r ddewislen ar yr ochr chwith
- Newidiwch eich manylion personol gan gynnwys eich cyfeiriad cartref ac yn ystod y tymor
Bydd y Brifysgol yn anfon gohebiaeth electronig ffurfiol i'ch cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol, ac ar adegau, i'ch cyfeiriad e-bost personol. Felly, mae'n bwysig eich bod yn gwirio'ch cyfrif e-bost yn y Brifysgol bob dydd ac yn diweddaru'ch cyfeiriad e-bost personol ar y fewnrwyd, yn enwedig ychydig cyn y cyfnodau arholi/asesu, yn ystod y cyfnodau arholi/asesu ac ar eu hôl.