Mae eich siwrnai yn dechrau yma...

students in class

Croeso i Brifysgol Abertawe!

Annwyl ddarpar fyfyrwyr gwaith cymdeithasol

Ar ran y tîm addysgu gwaith cymdeithasol, hoffwn estyn croeso cynnes i chi i ymuno â ni ar y rhaglen BSc gwaith cymdeithasol.

Rydym yn brysur yn paratoi ar gyfer eich cyrraedd ac ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym wedi ymrwymo i roi profiad ardderchog i chi gyda ni ac yn meddwl yn greadigol am y misoedd i ddod. Yn y cyfamser rydym yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol partner i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich lleoliadau ymarfer gwaith cymdeithasol.

Cyn eich cyfnod sefydlu byddem yn eich annog i gwblhau'r holl wiriadau angenrheidiol megis y datganiad iechyd, y DBS a hunan-ddatgeliad. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn cofrestru fel myfyriwr gwaith cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y pethau yma’n gwneud i'ch ychydig wythnosau cyntaf fynd mor llyfn â phosibl.

Yn olaf, rydym wedi darparu rhestr ddarllen a byddem yn argymell eich bod yn defnyddio un neu ddwy o’r ffynonellau hyn dros yr haf i roi blas ar eich dysgu a dod yn weithiwr cymdeithasol proffesiynol. 

 

_______________________________________________________________________________________________________

 

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 16 Medi 2024

Dydd

AM 10am-12.30pm

Cinio  12.30-1.30pm

PM 1.30pm-4pm

Dydd Llun 16eg

 

Sefydlu ar y rhaglen

Cyfarwyddwr y Rhaglen BSc

Tracey M Hewett

Jo Pye

(Ystafell Glyndwr K)

 

 

 

 

Trosolwg o leoliadau gwaith, cwrdd â rhai o'n partneriaid ym myd llywodraeth leol, a chwblhau proffiliau i asiantaethau.

Arweinwyr Lleoliadau Gwaith:

(Christian Beech ac Allison Hulmes)

 

(Ystafell Grove 344)

 

Dydd Mawrth 17 Medi 2024 Dydd Mercher 18 Medi 2024 Dydd Iau 19 Medi 2024 Dydd Mercher 25 Medi 2024 Dydd Gwener 27 Medi 2024

Cwrdd â'r tîm dysgu

CYFLOGADWYEDD

Cymorth Academaidd