Mae eich siwrnai yn dechrau yma...

students in class

Croeso i Brifysgol Abertawe!

Annwyl ddarpar fyfyrwyr gwaith cymdeithasol

Ar ran y tîm addysgu gwaith cymdeithasol, hoffwn estyn croeso cynnes i chi i ymuno â ni ar y rhaglen BSc gwaith cymdeithasol.

Rydym yn brysur yn paratoi ar gyfer eich cyrraedd ac ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym wedi ymrwymo i roi profiad ardderchog i chi gyda ni ac yn meddwl yn greadigol am y misoedd i ddod. Yn y cyfamser rydym yn gweithio'n agos gyda'n hawdurdodau lleol partner i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer eich lleoliadau ymarfer gwaith cymdeithasol.

Cyn eich cyfnod sefydlu byddem yn eich annog i gwblhau'r holl wiriadau angenrheidiol megis y datganiad iechyd, y DBS a hunan-ddatgeliad. Mae hefyd yn bwysig iawn eich bod yn cofrestru fel myfyriwr gwaith cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd y pethau yma’n gwneud i'ch ychydig wythnosau cyntaf fynd mor llyfn â phosibl.

Yn olaf, rydym wedi darparu rhestr ddarllen a byddem yn argymell eich bod yn defnyddio un neu ddwy o’r ffynonellau hyn dros yr haf i roi blas ar eich dysgu a dod yn weithiwr cymdeithasol proffesiynol. 

 

_______________________________________________________________________________________________________

 

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 14 Medi 2026

Dydd Llun 14 Medi 2026

10.00 – 12.30 Croeso i'r BSc mewn Gwaith Cymdeithasol

Ystafell 108 - Adeilad James Callaghan

13:30 - 16:00 Cwrdd â Phartneriaid yr Awdurdod Lleol, Lleoliadau Gwaith a Phroffiliau Dysgu Trwy Ymarfer

Ystafell 248 - Adeilad Grove

Dydd Mawrth 15 Medi 2026 Dydd Mercher 16 Medi 2026 Dydd Iau 17 Medi 2026 Dydd Gwener 18th Medi 2026

Cwrdd â'r tîm dysgu

CYFLOGADWYEDD

Cymorth Academaidd