10:00 - 11:00 Cyfarfodydd Tiwtor Personol (Addysg ac Astudiaethau Plentyndod)
Ystafell 201, Ail Lawr, Tŷ Undeb
Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn cwrdd â'ch grŵp Tiwtor Personol am y tro cyntaf! Bydd eich Tiwtor Personol mewn cysylltiad dros e-bost i roi gwybod i chi beth yw'r amser a'r lleoliad penodol ar gyfer eich cyfarfod.
Bydd eich Tiwtor Personol mewn cysylltiad yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, a bydd yn gallu eich cefnogi gydag amrywiaeth o ymholiadau gan gynnwys; cyfeirio at gymorth bugeiliol, arweiniad academaidd, cyflogadwyedd a mwy. Gallwch ddarganfod pwy yw eich tiwtor a'u manylion cyswllt drwy fewngofnodi i'ch tudalen Fewnrwyd unigol, o dan Fanylion Cwrs > Cysylltiadau Cwrs.
10:00 - 12:00 Asesiadau yn oed AI: Sgiliau ac adnoddau i wneud y mwyaf o'ch marciau (Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol)
Ystafell Seminar 039, Llawr Gwaelod, Adeilad Talbot
Mae gennych fynediad at Canvas a'ch canllawiau ynghylch modiwlau, ond beth sydd nesaf? Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn cynnwys sgiliau ac adnoddau allweddol ynghylch a) sut i gael mynediad at y darlleniadau ar gyfer eich modiwl a'u defnyddio; b) sut i ddefnyddio'r darlleniadau i gynllunio ac ysgrifennu eich aseiniaid; c) effaith cynnydd deallusrwydd artiffisial ar eich asesiadau. Bydd y sesiwn hefyd yn cyflwyno Canolfan Llwyddiant Academaidd Abertawe, sydd ar gael am ddim i chi ac sy'n cynnig amrywiaeth o adnoddau ychwanegol i gael y canlyniadau gorau posib.
Dewch â gliniadur (neu ffôn os nad oes gennych liniadur) a beiro a phapur ar gyfer y sesiwn hon
12:00 - 13:00 Cwrdd â dy diwtor personol (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
Bydd dy diwtor personol mewn cysylltiad â lleoliad penodol dy gyfarfod.
Cwrdd â dy diwtor personol. Darganfydda sut y byddant yn dy gefnogi yn ystod dy amser yn y brifysgol.
12:00 - 16:00 Cyfarfodydd Tiwtor Personol (Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol)
Bydd eich Tiwtor Personol mewn cysylltiad dros e-bost i roi gwybod i chi beth yw'r amser a'r lleoliad penodol ar gyfer eich cyfarfod.
Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn cwrdd â'ch grŵp Tiwtor Personol am y tro cyntaf! Bydd eich Tiwtor Personol mewn cysylltiad yn trefnu cyfarfodydd rheolaidd drwy gydol y flwyddyn, a bydd yn gallu eich cefnogi gydag amrywiaeth o ymholiadau gan gynnwys; cyfeirio at gymorth bugeiliol, arweiniad academaidd, cyflogadwyedd a mwy. Gallwch ddarganfod pwy yw eich tiwtor a'u manylion cyswllt drwy fewngofnodi i'ch tudalen Fewnrwyd unigol, o dan Fanylion Cwrs > Cysylltiadau Cwrs.
13:00 - 14:00: Cwrdd â dy diwtor personol (Saesneg, TESOL, Ieithyddiaeth Gymhwysol)
Techniwm Digidol, Lle Astudio'r Techniwm Digidol
Cwrdd â dy diwtor personol. Darganfydda sut y byddant yn dy gefnogi yn ystod dy amser yn y brifysgol.
13:00 - 14:30 Session Gymdeithasol: Pob Blwyddyn (Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)
Stiwdio, Creu Taliesin
Digwyddiad cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr o bob blwyddyn astudio yn yr Adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol. Dewch i adnabod eich gilydd a'ch darlithwyr a chael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd yng nghymuned eich adran.
14.00 - 17.00: Castelloedd Tywod A Pizza Cymdeithasol (Hanes, Y Clasuron, Astudiaethau Americanaidd)
Mae Cymru yn gartref i fwy o gestyll fesul milltir sgwâr (*) nag unrhyw le arall ar y blaned. Felly beth gwell i’r adran Hanes, Treftadaeth, a’r Clasuron ei wneud ar draeth tywodlyd na chael cystadleuaeth adeiladu cestyll tywod?! Ymuna â ni i gwrdd â myfyrwyr a darlithwyr eraill, bwyta pizza am ddim, ac ail-greu rhai adeiladau hanesyddol mewn tywod. Bydd bwcedi, rhawiau a pizza ar gael, ond dewch â’ch diodydd eich hun. Byddwn ar y traeth yn union o flaen y Cenotaph Abertawe.
* Felly dywed CNN Travel News.
Argymhellir esgidiau addas ac offer awyr agored.
Nid yw adeiladu cestyll tywod yn orfodol.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i BOB myfyriwr a staff yn yr Adran Hanes, Treftadaeth, a’r Clasuron, ar BOB lefel astudio.
Lleoliad trwy Google Maps
Mewn tywydd garw, ein lleoliad dan do ar gyfer y gweithgaredd hwn fydd y Gofod Astudio Myfyrwyr ar lawr gwaelod Adeilad y Technium Digidol.