Gweler isod am ddolenni i'ch amserlenni Wythnos Groeso ac Sefydlu, neges i'w croesawu gan eich Pennaeth Ysgol a mwy!
Edrychwn ymlaen at groesawu ein myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i'r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu ym mis Medi 2026
CROESO CYNNES I FYFYRWYR
Fel Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, mae'n bleser gennyf dy groesawu i Brifysgol Abertawe. Fel tîm o staff academaidd a gweinyddol, rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at gwrdd â thi a dy helpu i ymgartrefu yma yn Abertawe.
Bydd yr wythnosau nesaf yn llawn cyfleoedd cyffrous a phrofiadau newydd wrth i chi gwrdd â'ch darlithwyr, ymgyfarwyddo â’ch pynciau academaidd, ymuno â chlybiau a chymdeithasau a chreu ffrindiau gydol oes. Rydym yma i helpu i ateb eich cwestiynau a’ch helpu chi i ymgartrefu. Gobeithio y gallaf eich cyfarfod wyneb yn wyneb rhywbryd, ond am nawr dymunaf bob llwyddiant i chi am yr wythnosau a’r blynyddoedd nesaf, ac edrychaf ymlaen at ddathlu eich llwyddiannau a'ch cyfraniad i'n hysgol.
Yr Athro Richard Thomas, Pennaeth yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu