Amodau a Thelerau:
Rhennir cystadleuaeth The Big Pitch yn ddau lwybr. Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r amodau a thelerau ar gyfer y ddau lwybr:
Llwybr Cam Cynnar Dechrau Busnes
Mae’r llwybr cyntaf ‘Llwybr Cam Cynnar Dechrau Busnes ar gyfer myfyrwyr a graddedigion diweddar sydd ar gamau cychwynnol neu ddatblygol eu taith dechrau busnes. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus dair munud i gyflwyno eu busnes neu eu syniad am gyfle i ennill:
- Cyllid busnes gwerth hyd at £1,500
- Lle mewn Bŵtcamp Busnes neu ar raglen WE Innovate
- Mentora/Cyngor Busnes
- Cyfleoedd i fasnachu’n lleol
- Mynediad at aelodaethau cymorth busnes
- Lle i farchnata ar hysbysfyrddau digidol
Pwy sy’n gymwys?
- Mae'r llwybr hwn ar agor i fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe a graddedigion diweddar (o fewn 2 flynedd).
- Mae cyllid busnes a ddarperir drwy The Big Pitch yn dod o Santander Universities UK a gellir ei ddefnyddio ar gyfer busnesau a leolir yn y DU yn unig.
- Os ydych chi’n astudio ar Fisa Myfyrwyr , ni allwch chi gyflwyno cais am gyllid busnes oherwydd na allwch chi sefydlu busnes yn gyfreithlon yn y DU gyda’r fisa honno. Fodd bynnag, gallwch chi gyflwyno cais am y gwobrau eraill i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd.
- Mae angen i’ch busnes fod yn fusnes masnachu cofrestredig (unig fasnachwr, cwmni cyfyngedig, etc.) neu ar fin masnachu a chofrestru. Os ydych chi’n llwyddo i ennill cyllid, rhaid i’ch busnes fod yn gofrestredig o fewn 3 mis ar ôl i chi ennill eich cyllid .
- Ni chaiff cyllid ei ryddhau nes bod y busnes wedi cael ei gofrestru a phrawf o gofrestru wedi cael ei ddarparu i’r Tîm Menter Myfyrwyr.
_________________________________________________________________________________________
Llwybr Arloesi Sefydledig
Cynhelir yr ail lwybr, ‘Llwybr Arloesi Sefydledig’ i fyfyrwyr a graddedigion diweddar sydd â busnesau sefydledig. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus 5 munud yr un i gyflwyno eu busnes am gyfle i ennill:
- Cyllid gwerth hyd at £3,000
- Dyfernir y brif wobr o £5,000 i un busnes sy’n dangos arloesi a photensial rhagorol
- Lle mewn Bŵtcamp Busnes neu ar raglen WE Innovate
- Mentora/Cyngor Busnes
- Cyfleoedd i fasnachu’n lleol
- Mynediad at aelodaethau cymorth busnes
- Lle i farchnata ar hysbysfyrddau digidol
Pwy sy’n gymwys?
- Mae'r llwybr hwn ar agor i fyfyrwyr presennol Prifysgol Abertawe a graddedigion diweddar (o fewn 2 flynedd).
- Rhaid i’r rhai hynny sy’n gyflwyno cais fod â statws masnachu cofrestredig (unig fasnachwr, cwmni cyfyngedig, etc.) a rhaid eu bod yn masnachu ers dros 12 mis. Ni fydd ceisiadau yn cael eu derbyn nes bod cadarnhad a thystiolaeth wedi’u darparu.
- Rhaid i'r busnes fod yn arloesol ac mewn sefyllfa sy'n barod i ehangu, ac mae'n rhaid darparu tystiolaeth o hyn yn y cais.
- Gall y cyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer busnesau yn y DU yn unig. NI all unigolion neu dimau sy'n cynnwys myfyriwr ar Fisa Myfyrwyr gyflwyno cais am gyllid busnes. Gall unigolion ar Fisa Llwybr Graddedigion gyflwyno cais am gyllid.
_________________________________________________________________________________________
Sut mae’r cyllid yn gweithio ar gyfer y ddau lwybr?
Os yw eich cais am gyllid busnes yn llwyddiannus, ni fyddwch yn cael yr arian yn uniongyrchol , mae'n gweithio fel ad-daliad. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wario'r arian yn gyntaf gan ddefnyddio eich arian eich hun a chadw'r holl dderbynebau/prawf prynu er mwyn hawlio ad-daliad am yr arian.
I gael ad-daliad am yr arian rydych wedi'i wario, byddwch yn cael Ffurflen Treuliau Myfyrwyr y bydd angen i chi ei chwblhau a'i hanfon i enterprise@abertawe.ac.uk ynghyd â derbynebau/prawf prynu. Yna bydd eich taliad yn cael ei brosesu.
Rhaid i chi gyflwyno eich cais erbyn y dyddiad cau oni chytunir fel arall â’r Tîm Menter Myfyrwyr.
I’r rhai hynny sy’n ennill cyllid ar y ‘Llwybr Cam Cynnar Dechrau Busnes’, rhaid i chi gofrestru eich busnes a darparu prawf o hyn cyn y gallwch chi wneud eich cais, fel arall, ni chaiff cyllid ei ryddhau i chi.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, gall taliadau gymryd hyd at 5 wythnos i’ch cyrraedd, ond weithiau ceir oedi.
Ar beth gallaf wario’r Cyllid Busnes?
- Cyfarpar
- Stoc
- Datblygu gwefan/meddalwedd busnes
- Prototeipiau/cynhyrchion gweithgynhyrchu
- Gwisgoedd busnes/gweithgareddau marchnata a hyrwyddo (cardiau busnes, dyluniadau graffig, talu am hysbysebion etc.)
- Aelodaethau busnes (yn gysylltiedig yn benodol â’ch busnes chi)
Sylwer, rhaid cytuno ar yr holl eitemau o flaen llaw â’r Tîm Menter oherwydd na fydd rhai eitemau’n gymwys a gwneir penderfyniadau ynglŷn â hyn fesul achos. Dyma enghreifftiau o eitemau nad ydynt yn gymwys:
- Cyflogau
- Rhent a chyfleustodau
- Cerbydau
- Gliniaduron/Cyfrifiaduron
Dyddiad cau i gyflwyno cais am ad-daliad?
Rhaid i chi gyflwyno cais am ad-daliad am eich arian erbyn 28 Chwefror 2027
_________________________________________________________________________________________
Gweithdy gorfodol ar roi cyflwyniadau
I helpu i roi’r cyfle gorau i ymgeiswyr llwyddiannus baratoi eu cyflwyniad, byddwn ni’n cynnal ein gweithdy ‘Sut i roi cyflwyniad’ ar 11 Tachwedd ar Gampws Singleton.
Bydd y gweithdy hwn yn orfodol i bawb sy'n cymryd rhan. Dilynwch y ddolen hon i gyflwyno cais. Os byddwch chi’n cael lle yn y gystadleuaeth ac yn cael anawsterau wrth ddod i’r gweithdy hwn, e-bostiwch enterprise@abertawe.ac.uk.