Croeso i'r Brifysgol

Gall paratoi i astudio yn y brifysgol fod yn frawychus. Os wyt ti am wybod beth fydd dy gam nesaf, mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn cynnal gweithdy Croeso i'r Brifysgol i'th helpu i gael mwy o wybodaeth am yr hyn i'w ddisgwyl, a'th dywys drwy awgrymiadau defnyddiol ar gyfer dy ddysgu. Yn ogystal ag ymagweddau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fwyafu amser astudio a phrosesau, bydd yn cynnwys safbwyntiau gan fyfyrwyr ac adrannau gwahanol ar draws y sefydliad.

Gwahoddir myfyrwyr i'r digwyddiad ar-lein hwn a gynhelir ar Zoom o 10am tan 2pm

Amser a dyddiad: Dydd Mercher 22 Ionawr. 10:00 –14:00

Cofrestra drwy nodi dy gyfeiriad e-bost yma. (Anfonir dolen atat i ymuno â'r sesiwn drwy Zoom yn agosach at yr amser)

Amlinelliad y Sesiwn:

  • 10:00 – 10:45: Cyflwyniad 
  • 10:45 – 11:45: Awgrymiadau Astudio: Awgrymiadau i wneud yn fawr o'th ddysgu yn y brifysgol
  • 11:45 - 12:00:  Egwyl
  • 12:15 – 13:15: Trafodaeth panel myfyrwyr
  • 13:15 – 14:00: Cyflwyniad i'r Gwasanaethau Cymorth

Ebost academicsuccess@swansea.ac.uk    

Ymweld â ni: Bloc y Stablau, Abaty Singleton, Campws Singleton

Instagram: llwyddiantacademaidd

Facebook: Canolfan Llwyddiant Academaidd

X: @CAS_Abertawe