Cwrdd & Cymysgu
Mae Meet & Mingle yn rhaglen gyflawn o ddigwyddiadau sydd wedi'i chynllunio i annog myfyrwyr i ddysgu rhywbeth newydd, gan obeithio ffurfio bondiau cyfeillgarwch parhaol. Mae'r digwyddiadau'n fach o ran maint ac maent bob amser yn cael eu cynnal gan yr un unigolyn, sydd wrth law i helpu i sicrhau bod y sgyrsiau'n llifo'n rhwydd. Mae'r digwyddiadau'n ddi-farn, yn ddi-gystadleuaeth ac maent bron bob amser am ddim!
Ffair Wybodaeth i Fyfyrwyr
Cysylltwch ag ystod eang o dimau cymorth, adrannau academaidd, a gwasanaethau allanol, i gyd mewn un lle! Bydd yn rhoi cyfle i chi archwilio'r cymorth sydd ar gael i chi wrth i chi ymsefydlu ym mywyd y brifysgol. Eleni, cynhelir y ffair ar:
Campws Singleton - Taliesin - Dydd Mawrth 29 Medi, 11:00–14:00
Campws Bae – Canol Peirianneg, (Ffair Gwybodaeth i Fyfyrwyr) ac Ysgol Reolaeth (Ffair Swyddi Rhan-amser) - Dydd Iau 1af Hydref, 11:00–14:00
Ffair Swyddi Rhan-amser
Cyfle i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith rhan-amser gwrdd â chyflogwyr a chael gwybod mwy am yr amrywiaeth o rolau sydd ar gael.
Eleni, bydd y Ffair Swyddi Rhan-amser yn cael ei chynnal ochr yn ochr â'r Ffair Gwybodaeth i Fyfyrwyr - edrychwch ar y dyddiadau uchod!
Cyfle i siarad â chyflogwyr lleol
Rhaglen GO!
Mae Rhaglen GO! - rhaglen ddigwyddiadau, gweithgareddau a theithiau - yn rhoi cyfle i fyfyrwyr wneud y gorau o'u profiad fel myfyriwr. Byddem wrth ein bodd i'ch gweld yn cymryd rhan mewn cynifer o weithgareddau â phosibl drwy gydol y flwyddyn.
Bod yn ACTIF
P'un a ydych yn dymuno bod yn fwy heini, gwneud ffrindiau, gwella eich llesiant neu ddim ond rhoi cynnig ar rywbeth newydd, Bod yn ACTIF yw'r lle perffaith i ddechrau. Gyda gweithgareddau am ddim a chost isel ar gyfer pob gallu, nid yw hi erioed wedi bod yn haws bod yn rhan o Chwaraeon Prifysgol Abertawe.
Digwyddiadau eraill
Mae llawer mwy o ddigwyddiadau'n digwydd ar draws Prifysgol Abertawe - cofiwch fwrw golwg arnyn nhw. Mae rhywbeth at ddant pawb bob amser, ac maen nhw'n ffordd wych o weld y ddinas neu wneud ffrindiau newydd. Cymerwch gip arnyn nhw isod!