Rydym wedi casglu ystod eang o wybodaeth ynghyd a fydd o bosibl yn ddefnyddiol i chi. Mae nifer o adnoddau a rhaglenni lleol ac ar-lein sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd.
Adnoddau Hunangymorth
Gwefannau
- SilverCloud – cwrs ar-lein sy’n rhoi cymorth ar gyfer gorbryder, iselder, a llawer mwy, yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Mae GIG Cymru yn cynnig cwrs am ddim i bobl 16 oed a hŷn sydd wedi’u cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru AC nad ydynt yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu drydyddol (e.e. nid ydynt o dan ofal seiciatrydd neu seicolegydd). Gellir cael mynediad i'r cwrs ar-lein rhad-ac-am-ddim hwn ar ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.
- Meddwl; Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae elusen Mind yn darparu gwybodaeth a chanllawiau cryno i ymdopi a chael cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl, gan gynnwys A-Y o Iechyd Meddwl.
- Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi ei greu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae'r prosiect hefyd wedi datblygu Ap ar sail gwaith ‘Moving on in my recovery’, a gallwch ei ddefnyddio i ddilyn 12 cam i edrych ar ôl eich iechyd meddwl. Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.
- Mae Rethink Mental Illness yn darparu gwybodaeth amrywiol a chyngor ynghylch anawsterau Iechyd Meddwl i bawb sy'n cael eu heffeithio gan salwch meddwl, eu gofalwyr, eu teulu a’u ffrindiau.
- Student Minds yw elusen y DU ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr.
- Mae Student Space i fyfyrwyr sy'n profi ansicrwydd yn eu bywyd prifysgol, gan gynnwys cymorth ffôn, testun a gwe-sgwrs.
- Mae Togetherall ar gael 24/7 ac mae'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth iechyd meddwl am ddim, a fforwm i fyfyrwyr â materion iechyd meddwl gefnogi ei gilydd. Mae Togetherall hefyd yn rhad ac am ddim i staff Prifysgol Abertawe.
Canllawiau, Llyfrau Gwaith a Llyfrau Hunangymorth
Mae’r adran hon yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau a llyfrau gwaith ar-lein sydd â’r nod o wella lles a datblygu strategaethau i reoli anawsterau a gofid. Datblygwyd y cyrsiau hyn gan ymarferwyr proffesiynol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau seicolegol ar sail tystiolaeth. Sylwer nad yw’r adnoddau hyn yn disodli asesiad a chymorth arbenigol. Os oes gennych bryderon ynghylch addasrwydd y cyrsiau hyn i chi, ceisiwch gyngor gan ymarferydd meddygol, iechyd meddwl neu therapi proffesiynol.
-
Mae gan AMOSSHE, y sefydliad gwasanaethau myfyrwyr, gasgliad o ganllawiau i hyrwyddo cydbwysedd a gwytnwch emosiynol.
-
Mae BEAT yn darparu gwybodaeth ac arweiniad am anawsterau bwyta ar gyfer pobl ag anhwylder bwyta.
-
Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymyriadau Clinigol yn darparu llyfrau am dechnegau gwybyddol ymddygiadol i’ch helpu i reoli problemau gyda gorbryder, pryderon am eich gwedd, anhwylder deubegynol, anhwylder dysmorffia corff, iselder ysbryd, ymdopi â gofid, anhwylderau bwyta, gorbryder a phryder cyffredinol, pryder am eich iechyd, problemau rhyngbersonol, panig, perffeithrwydd, gohirio, hunan-dosturi, hunan-barch, cwsg, gorbryder cymdeithasol a ffyrdd niweidiol o feddwl.
-
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn darparu gwybodaeth, canllawiau hunangymorth a phodlediadau am iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar.
-
Good Universities Guide am ohirio a’r Dull Pomodoro.
-
James Clear yw awdur y llyfr poblogaidd iawn “Atomic Habits” ac mae’n darparu canllaw am ddim i oresgyn arferion gohirio.
-
Mae Hapus yn gwrs ar-lein sy'n dy baratoi am yr heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol yn y brifysgol. Mae'n rhoi i ti’r wybodaeth a'r adnoddau i allu mynd i'r afael â materion fel gorbryder cymdeithasol, rheoli dy arian a hwyliau isel. Gelli di gyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas.
-
Mae Living Life to the Full yn cynnig cyrsiau am ddim ac am dâl i helpu i fynd i’r afael â phroblemau hwyliau isel a gorbryder gan ddilyn ymagwedd wybyddol ymddygiadol.
-
Mae Mood Gym yn adnodd hunangymorth ar-lein â’r nod o helpu pobl i hunanreoli problemau iechyd meddwl cyffredin.
- Mae NHS Inform Scotland yn darparu llyfrynnau hunangymorth ar reoli ystod o anawsterau seicolegol.
- Canllawiau hunangymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol y GIG.
- Adnodd myfyrdod am ddim yw Revive Prescribed a arweinir gan Dr Liza Thomas-Emrus, sy’n feddyg teulu a gymhwysodd fel athrawes myfyrdod gydag Ysgol Myfyrdod Prydain. Mae sesiynau sy’n addas i ddechreuwyr neu’r sawl sy’n fwy profiadol gyda myfyrio, ac maent yn cynnwys sesiynau penodol ar gyfer anawsterau corfforol ac iechyd meddwl (gan gynnwys gorbryder a straen).
- Mae Samariaid Cymru wedi lansio Dod o Hyd i’ch Ffordd (PDF, 2.0 MB), sef canllaw i unrhyw un sy’n ei chael hi'n anodd ymdopi.
- Edrychwch i weld beth sydd ar gael yn llyfrgell y Brifysgol.
- Mae Student Minds wedi lansio Transition into University, sef adnodd sy'n canolbwyntio ar reoli amser, perthnasoedd, hunaniaeth, cyllid, gweithgarwch rhywiol, iechyd meddwl, hunanladdiad a chaethiwed i sylweddau, a mwy.
- Mae Students Against Depression yn darparu gwybodaeth am iselder ysbryd a fforwm i gael cefnogaeth gan fyfyrwyr eraill yn y DU sy’n wynebu iselder ysbryd.
- Mae’r Coleg Seiciatreg Brenhinol yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth eang iawn o broblemau iechyd meddwl ac mae hefyd yn darparu arweiniad am sut i gael mynediad at asesiadau a thriniaeth.
Adnoddau Lleol
- Mae Canopi yn cynnig cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i staff y GIG a gofal cymdeithasol ar draws Cymru
- Adferiad Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl - Mae’r Noddfa yn wasanaeth sydd ar gael y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac yn cynnig cymorth y marferol a therapiwtig, holistaidd ac sy’n canoli ar y person, a hynny er mwyn cefnogi pobl sydd mewn risg o brofi argyfwng iechyd meddwl yn Nghastellnedd Port Talbot ac Abertawe. Mae’r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 6pm a 3am. Mae’r Noddfa nawr ar agor i bobl sydd yn atgyfeirio eu hunain. Os hoffech gael mynediad at y gwasanaeth, cysylltwch gyda ni’n uniongyrchol ar 01792 399 676 ac mae llinellau ar agor rhwng 6pm a 1:30am.
- Mae Byw’n Iach gan GIG Cymru'n cynnig canllawiau a thechnegau i'ch helpu i wneud y dewisiadau gorau er lles eich iechyd.
- Mae Mental Health Matters yn cynnal grwpiau cymorth ar-lein wythnosol i bobl â phryderon am hunan-niweidio, pryder ac iselder, anhwylderau bwyta a materion LGBTQ+. Maent hefyd yn cynnig gwybodaeth ac eiriolaeth.
- Rheolir Hyb Iechyd Meddwl Dan yr Unto gan Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar y cyd â Sefydliad Jac Lewis, Heddlu De Cymru, y Samariaid a Chyngor Dinas Abertawe. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Stadiwm Swansea.Com, gwefan Sefydliad Jac Lewis, neu e-bostio jaclewisfoundation@gmail.com.
- Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe wedi creu cyfeiriadur o wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan.
Podlediadau
Mae Let's Talk About CBT yn trafod beth yw Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), beth nad ydyw, a sut gall fod o ddefnydd.
Ffrydio byw
MindSET yw adnodd digidol Body & Soul ar gyfer pobl ifanc i wella eu hiechyd meddwl a'u lles trwy sesiynau ar-lein byw, fideos, animeiddiadau a phodlediadau, i gyd am ddim.
Ioga
- Mae sesiynau ioga hygyrch gyda Miranda Yoga ar gael ar YouTube. Mae ystod helaeth o ddosbarthiadau ar gael sy’n canolbwyntio ar ymlacio, symud yn ogystal â sesiynau penodol ar gyfer anawsterau iechyd meddwl megis gorbryder, iselder, galaru ac ymadfer.
Apiau
- Mae Headspace yn darparu ap ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer ffonau symudol, lle gallwch fanteisio ar raglen 10 niwrnod am ddim o ganllawiau sain i ymwybyddiaeth ofalgar. Mae Headspace ar gael am ddim i fyfyrwyr gyda Spotify Premium.
- Gallwch bori ein rhestr o Apiau Lles Ar-lein defnyddiol.
Adnoddau’r pandemig
-
Coping with Coronavirus gan Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
-
How to look after your mental health during the Coronavirus outbreak gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.
-
Coronavirus and your wellbeing gan MIND.
-
FACE Covid – How to respond effectively to the Corona crisis PDF a fideo YouTube gan Dr Russ Harris, awdur The Happiness Trap.
-
OCD and Coronavirus Survival Tips gan OCD UK.
-
Tips and Strategies to Cope with Anxiety and Coronavirus gan BACP.
-
Awgrymiadau’r GIG am ymdopi â Gorbryder gan Every Mind Matters, y GIG.
-
Coronavirus anxiety: how to cope if you're feeling anxious about the outbreak gan BACP.
-
Psychological Coping in Social Isolation gan Gymdeithas Seicolegol America.
-
Looking after your Mental Health in Social Isolation gan BACP.
-
How to look after your self-care during Coronavirus gan BACP.
-
Eating Disorders and Coronavirus gan Beat.
-
Adnoddau Coronafeirws a fforwm ar-lein ar gyfer pobl awtistig a’u teuluoedd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol.
Cymorth Pellach
Cymorth Iechyd Meddwl yng Nghymru
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl statudol, cwnsela neu therapi yng Nghymru, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu â GIG 111. Dim ond trwy gyfeiriad meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall y gellir cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru.
Cymorth Iechyd Meddwl yn Lloegr
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yn Lloegr, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu rhowch eich côd post yn y dolenni canlynol i gael gwybod am eich gwasanaethau lleol a chysylltu â nhw’n uniongyrchol.
Mae’r gwasanaethau Gwella Mynediad at Therapi Seicolegol (IAPT) yn darparu asesiadau a therapi seicolegol ar gyfer pobl sy’n wynebu pob math o orbryder, trawma ac iselder meddwl. Mae gwasanaethau IAPT yn derbyn hunan-gyfeiriadau ar-lein a thros y ffôn ac, yn ystod pandemig Covid-19, maent yn parhau i ddarparu asesiadau a chymorth ar-lein a thros y ffôn. Gallant hefyd eich cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill sydd ar gael yn eich ardal. Ddod o hyd i’ch gwasanaeth lleol.
Cymorth Iechyd Meddwl yn yr Alban
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yn yr Alban, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu defnyddiwch y rhestr o wasanaethau ar wefan NHS Inform i ddod o hyd i wasanaethau lleol.