Rydym wedi casglu ystod eang o wybodaeth ynghyd a fydd o bosibl yn ddefnyddiol i chi. Mae nifer o adnoddau a rhaglenni lleol ac ar-lein sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd.
Adnoddau Hunangymorth
Gwefannau
- SilverCloud – cwrs ar-lein sy’n rhoi cymorth ar gyfer gorbryder, iselder, a llawer mwy, yn seiliedig ar Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT). Mae GIG Cymru yn cynnig cwrs am ddim i bobl 16 oed a hŷn sydd wedi’u cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Nghymru neu sy’n byw yng Nghymru AC nad ydynt yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd neu drydyddol (e.e. nid ydynt o dan ofal seiciatrydd neu seicolegydd). Gellir cael mynediad i'r cwrs ar-lein rhad-ac-am-ddim hwn ar ffôn clyfar, tabled, gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith.
- Meddwl; Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae elusen Mind yn darparu gwybodaeth a chanllawiau cryno i ymdopi a chael cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o faterion iechyd meddwl, gan gynnwys A-Y o Iechyd Meddwl.
- Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi ei greu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae'r prosiect hefyd wedi datblygu Ap ar sail gwaith ‘Moving on in my recovery’, a gallwch ei ddefnyddio i ddilyn 12 cam i edrych ar ôl eich iechyd meddwl. Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw.
- Mae Rethink Mental Illness yn darparu gwybodaeth amrywiol a chyngor ynghylch anawsterau Iechyd Meddwl i bawb sy'n cael eu heffeithio gan salwch meddwl, eu gofalwyr, eu teulu a’u ffrindiau.
- Student Minds yw elusen y DU ar gyfer iechyd meddwl myfyrwyr.
- Mae Student Space i fyfyrwyr sy'n profi ansicrwydd yn eu bywyd prifysgol, gan gynnwys cymorth ffôn, testun a gwe-sgwrs.
- Mae TalkCampus yn gymuned lles ar-lein am ddim sydd ar gael ddydd a nos saith niwrnod o’r wythnos i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe. Cofrestrwch gyda’ch cyfeiriad e-bost yn y brifysgol i gael mynediad at gymorth dienw gan filiynau o fyfyrwyr ledled y byd. Mae’r platfform yn eich galluogi i rannu sut rydych chi’n teimlo drwy bostiadau, negeseua sydyn neu drafodaethau grŵp, i gyd yn yr iaith o’ch dewis ac mae ar gael ar eich ffôn symudol, eich llechen neu eich cyfrifiadur ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi, gallwch chi hefyd gysylltu â chlinigwr ar unwaith drwy’r platfform.
- Mae Togetherall ar gael 24/7 ac mae'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth iechyd meddwl am ddim, a fforwm i fyfyrwyr â materion iechyd meddwl gefnogi ei gilydd. Mae Togetherall hefyd yn rhad ac am ddim i staff Prifysgol Abertawe.
Canllawiau, Llyfrau Gwaith a Llyfrau Hunangymorth
Mae’r adran hon yn cynnwys amrywiaeth eang o gyrsiau a llyfrau gwaith ar-lein sydd â’r nod o wella lles a datblygu strategaethau i reoli anawsterau a gofid. Datblygwyd y cyrsiau hyn gan ymarferwyr proffesiynol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau seicolegol ar sail tystiolaeth. Sylwer nad yw’r adnoddau hyn yn disodli asesiad a chymorth arbenigol. Os oes gennych bryderon ynghylch addasrwydd y cyrsiau hyn i chi, ceisiwch gyngor gan ymarferydd meddygol, iechyd meddwl neu therapi proffesiynol.
- Mae BEAT yn darparu gwybodaeth ac arweiniad am anawsterau bwyta ar gyfer pobl ag anhwylder bwyta.
-
Mae’r Ganolfan ar gyfer Ymyriadau Clinigol yn darparu llyfrau am dechnegau gwybyddol ymddygiadol i’ch helpu i reoli problemau gyda gorbryder, pryderon am eich gwedd, anhwylder deubegynol, anhwylder dysmorffia corff, iselder ysbryd, ymdopi â gofid, anhwylderau bwyta, gorbryder a phryder cyffredinol, pryder am eich iechyd, problemau rhyngbersonol, panig, perffeithrwydd, gohirio, hunan-dosturi, hunan-barch, cwsg, gorbryder cymdeithasol a ffyrdd niweidiol o feddwl.
-
Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn darparu gwybodaeth, canllawiau hunangymorth a phodlediadau am iechyd meddwl ac ymwybyddiaeth ofalgar.
-
Good Universities Guide am ohirio a’r Dull Pomodoro.
-
James Clear yw awdur y llyfr poblogaidd iawn “Atomic Habits” ac mae’n darparu canllaw am ddim i oresgyn arferion gohirio.
-
Mae Hapus yn gwrs ar-lein sy'n dy baratoi am yr heriau meddyliol, emosiynol ac ymarferol yn y brifysgol. Mae'n rhoi i ti’r wybodaeth a'r adnoddau i allu mynd i'r afael â materion fel gorbryder cymdeithasol, rheoli dy arian a hwyliau isel. Gelli di gyrchu'r cwrs drwy dy gyfrif Canvas.
-
Mae Living Life to the Full yn cynnig cyrsiau am ddim ac am dâl i helpu i fynd i’r afael â phroblemau hwyliau isel a gorbryder gan ddilyn ymagwedd wybyddol ymddygiadol.
- Mental Health Foundation
-
Mae Mood Gym yn adnodd hunangymorth ar-lein â’r nod o helpu pobl i hunanreoli problemau iechyd meddwl cyffredin.
- Mae NHS Inform Scotland yn darparu llyfrynnau hunangymorth ar reoli ystod o anawsterau seicolegol.
- Canllawiau hunangymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol y GIG.
- Adnodd myfyrdod am ddim yw Revive Prescribed a arweinir gan Dr Liza Thomas-Emrus, sy’n feddyg teulu a gymhwysodd fel athrawes myfyrdod gydag Ysgol Myfyrdod Prydain. Mae sesiynau sy’n addas i ddechreuwyr neu’r sawl sy’n fwy profiadol gyda myfyrio, ac maent yn cynnwys sesiynau penodol ar gyfer anawsterau corfforol ac iechyd meddwl (gan gynnwys gorbryder a straen).
- Edrychwch i weld beth sydd ar gael yn llyfrgell y Brifysgol.
- Mae Students Against Depression yn darparu gwybodaeth am iselder ysbryd a fforwm i gael cefnogaeth gan fyfyrwyr eraill yn y DU sy’n wynebu iselder ysbryd.
- Mae’r Coleg Seiciatreg Brenhinol yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth eang iawn o broblemau iechyd meddwl ac mae hefyd yn darparu arweiniad am sut i gael mynediad at asesiadau a thriniaeth.
Adnoddau Lleol
- Mae Canopi yn cynnig cymorth iechyd meddwl cyfrinachol am ddim i staff y GIG a gofal cymdeithasol ar draws Cymru
- Adferiad Gwasanaeth Noddfa Iechyd Meddwl - Mae’r Noddfa yn wasanaeth sydd ar gael y tu hwnt i oriau swyddfa arferol ac yn cynnig cymorth y marferol a therapiwtig, holistaidd ac sy’n canoli ar y person, a hynny er mwyn cefnogi pobl sydd mewn risg o brofi argyfwng iechyd meddwl yn Nghastellnedd Port Talbot ac Abertawe. Mae’r gwasanaeth ar gael 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn, rhwng 6pm a 3am. Mae’r Noddfa nawr ar agor i bobl sydd yn atgyfeirio eu hunain. Os hoffech gael mynediad at y gwasanaeth, cysylltwch gyda ni’n uniongyrchol ar 01792 399 676 ac mae llinellau ar agor rhwng 6pm a 1:30am.
- Mae Byw’n Iach gan GIG Cymru'n cynnig canllawiau a thechnegau i'ch helpu i wneud y dewisiadau gorau er lles eich iechyd.
- Mae Mental Health Matters yn cynnal grwpiau cymorth ar-lein wythnosol i bobl â phryderon am hunan-niweidio, pryder ac iselder, anhwylderau bwyta a materion LGBTQ+. Maent hefyd yn cynnig gwybodaeth ac eiriolaeth.
- Mae’r One-Stop Mental Health Hub yn bartneriaeth rhwng Sefydliad Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Sefydliad Jac Lewis er mwyn cefnogi’r gymuned. Mae’r hyb yn darparu mynediad ar unwaith at gymorth iechyd meddwl ac mae’n helpu i leihau’r stigma o geisio cymorth. Elusen yw Sefydliad Jac Lewis sydd â’r nod o ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles ar draws Cymru ac yn y gymuned.
Mae’r sesiynau galw heibio’n cynnig mwy na chymorth iechyd meddwl yn unig – mae cymorth hefyd ar gael ar gyfer problemau tai, cyllid, hyfforddiant a materion cyfreithiol. Dim rhwystrau, dim beirniadaeth – dim ond cymorth pan fydd ei angen arnoch chi.
Ble? Stadiwm Swansea.com
Pryd? Bob dydd Gwener 10am – 3pm
Pwy? Pobl dros 18 oed yn unig
Os oes gennych chi gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, e-bostiwch robin@swansfoundation.org.uk - Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe wedi creu cyfeiriadur o wasanaethau cymorth lleol a chenedlaethol sy’n ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion. Ceir rhagor o wybodaeth ar y wefan.
Podlediadau
Mae Let's Talk About CBT yn trafod beth yw Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT), beth nad ydyw, a sut gall fod o ddefnydd.
Ioga
- Mae sesiynau ioga hygyrch gyda Miranda Yoga ar gael ar YouTube. Mae ystod helaeth o ddosbarthiadau ar gael sy’n canolbwyntio ar ymlacio, symud yn ogystal â sesiynau penodol ar gyfer anawsterau iechyd meddwl megis gorbryder, iselder, galaru ac ymadfer.
Apiau
- Mae Headspace yn darparu ap ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer ffonau symudol, lle gallwch fanteisio ar raglen 10 niwrnod am ddim o ganllawiau sain i ymwybyddiaeth ofalgar. Mae Headspace ar gael am ddim i fyfyrwyr gyda Spotify Premium.
- Gallwch bori ein rhestr o Apiau Lles Ar-lein defnyddiol.
Adnoddau’r pandemig
-
Coping with Coronavirus gan Seicolegwyr Clinigol dan Hyfforddiant yng Ngholeg Prifysgol Llundain.
-
How to look after your mental health during the Coronavirus outbreak gan y Sefydliad Iechyd Meddwl.
-
Coronavirus and your wellbeing gan MIND.
-
FACE Covid – How to respond effectively to the Corona crisis PDF a fideo YouTube gan Dr Russ Harris, awdur The Happiness Trap.
-
OCD and Coronavirus Survival Tips gan OCD UK.
-
Awgrymiadau’r GIG am ymdopi â Gorbryder gan Every Mind Matters, y GIG.
-
Psychological Coping in Social Isolation gan Gymdeithas Seicolegol America.
-
Eating Disorders and Coronavirus gan Beat.
Cymorth Pellach
Cymorth Iechyd Meddwl yng Nghymru
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl statudol, cwnsela neu therapi yng Nghymru, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu â GIG 111. Dim ond trwy gyfeiriad meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall y gellir cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl y GIG yng Nghymru.
Cymorth Iechyd Meddwl yn Lloegr
I gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yn Lloegr, cysylltwch â'ch meddyg teulu, neu rhowch fanylion eich meddygfa yn y ddolen isod i ddarganfod eich gwasanaethau lleol a chysylltwch â nhw'n uniongyrchol.
Mae therapïau siarad y GIG yn wasanaeth am ddim sydd ar gael i unrhyw unigolyn y mae ei feddygfa yn Lloegr. Gallan nhw gynnig therapïau siarad fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), cwnsela, therapïau eraill, a hunangymorth dan arweiniad. I archwilio gwasanaeth therapïau siarad y GIG, cliciwch ar y ddolen: Find NHS talking therapies for anxiety and depression - NHS.
Cymorth Iechyd Meddwl yn yr Alban
I gael mynediad at gymorth iechyd meddwl, cwnsela neu therapi yn yr Alban, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu defnyddiwch y rhestr o wasanaethau ar wefan NHS Inform i ddod o hyd i wasanaethau lleol.