Delwedd o Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu. Gellir gweld cynulleidfa yn cymeradwyo yn y cefndir.

Gallwch enwebu mewn un, dau neu dri chategori. Mae'r cyfnod enwebu ar agor o ddydd Llun 2 Mawrth tan ddydd Gwener 1 Mai 2026.

Categorïau Gwobrau


ELTA

Mae'r Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA) yn wobr ar gyfer athrawon unigol. Gallwch wneud hyd at ddau enwebiad ar gyfer athrawon unigol, ond os byddwch chi eisiau gwneud mwy nag un enwebiad, mae'n rhaid i un fod o floc addysgu 1 ac un o floc addysgu 2. Os ydych chi'n gwneud un enwebiad yn unig, gall fod o unrhyw un.

Eicon yn darlunio bwrdd morter a llawryf

ESSA

Dyfernir y Wobr Cymorth Rhagorol i Fyfyrwyr (ESSA) i aelodau staff unigol, neu dîm cymorth cyfan. Gallwch enwebu unigolyn neu dîm ar gyfer y wobr hon.

Eicon yn darlunio llaw yn gafael mewn llaw arall a llawryf

ETTA

Dyfernir y Wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu fel Tîm (ETTA) i dimau o athrawon. Gallwch wneud hyd at ddau enwebiad ar gyfer timau addysgu, ond os byddwch chi eisiau gwneud mwy nag un enwebiad, mae'n rhaid i un fod o floc addysgu 1 ac un o floc addysgu 2. Os ydych chi'n gwneud un enwebiad yn unig, gall fod o unrhyw un.

Eicon yn darlunio grŵp o dri silwét a llawryf

Sylwer: Os yw unigolyn neu dîm wedi ennill yn y tair blynedd diwethaf, ni allent ennill eto eleni. Gwiriwch y rhestr o enillwyr blaenorol cyn cyflwyno eich enwebiadau.


Gwneud enwebiad