Myfyriwr yn meddwl am yr hyn y byddan nhw'n ei ysgrifennu

Ystyriwch y canlynol:

Beth sy'n gwneud addysgu'r darlithydd hwn yn wych?

  • Beth sy'n rhagorol am ei addysgu?
  • A yw ei addysgu'n arloesol? Os felly, beth mae'n ei wneud sy'n wahanol? Oes ganddo ymagwedd greadigol?
  • A yw ei addysgu'n gynhwysol? A ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cynnwys yn bersonol yn y profiad dysgu?
  • A yw'n defnyddio Canvas (y Platfform Dysgu Digidol) yn dda?
  • Sut mae wedi'ch cynnwys mewn dysgu cyfunol/dysgu o bell? A yw’r darlithydd wedi defnyddio meddalwedd recordio darlithoedd? Zoom?  Teams?
  • Pa fath o ddulliau addysgu mae’r darlithydd yn eu defnyddio yn gyffredinol? Gwaith grŵp?  Trafodaeth? Cwestiynu? Cwisiau? 
  • A oes ganddo ffyrdd o wneud pethau sy'n arbennig o dda wrth eich helpu i ddysgu?
  • Pa mor dda rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael eich cefnogi yn eich dysgu? Beth sy'n gwneud i chi deimlo fel hyn?
  • A oes adnoddau ar gyfer y cwrs i gefnogi eich dysgu? Fideos? Taflenni? Sleidiau PowerPoint? etc. Os felly, ydyn nhw'n dda? A ydyn nhw'n ddefnyddiol yn eich barn chi?
  • Sut beth yw awyrgylch yr amgylchedd dysgu? Anffurfiol? Cefnogol?  Cyffrous?  Diddorol?  Yn eich ysbrydoli? Difyr?
  • Sut cewch eich asesu? (nid adborth yn unig - darllenwch ymlaen am ragor o wybodaeth am hynny)

Beth am ei adborth?

  • Cofiwch fod adborth yn fwy nag ymateb ffurfiol i waith ysgrifenedig. Gall fod:
    • yn anffurfiol yn ystod y dosbarth
    • ar lafar
    • ymateb i'r ffordd gwnaethoch chi ymateb i gwestiwn
    • grŵp bach / dosbarth cyfan
    • unigol
    • rhan o sgwrs
    • ar aseiniad Turnitin
    • Fideo
    • bron unrhyw beth!
  • Ydych chi'n cael adborth digonol i gefnogi'ch dysgu?
  • Ydy'r adborth yn cyfiawnhau'r marc a gawsoch (pan fo hynny'n briodol)?
  • A yw'n adeiladol? Gan roi awgrymiadau ar gyfer gwella eich gwaith?
  • A oes awgrymiadau ar gyfer ffyrdd eraill o gael cymorth?
  • A yw'n cyfeirio at y meini prawf / y cynllun marcio / yr aseiniad / eich gwaith blaenorol?
  • A yw'n onest? A yw'n benodol i chi?
  • A gaiff camau dilynol eu cymryd mewn perthynas ag ef?

Yn barod i enwebu?

Cyn i chi ddechrau eich enwebiad, cofiwch wirio ein rhestr o enillwyr blaenorol yn gyntaf - nid yw staff yn gymwys i ennill yr un wobr o fewn tair blynedd.