Mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yma i roi cymorth i chi o ran meithrin eich sgiliau astudio academaidd a chyflawni eich nodau. Boed eich bod yn mynychu'r Brifysgol am y tro cyntaf neu'n cymryd y cam nesaf ar eich taith academaidd, gallwn eich helpu i bontio'r bwlch rhwng ble rydych chi ar hyn o bryd a ble mae angen i chi fod.
Sut gallwn fod o fudd i chi
Gallwch gynyddu eich potensial i'r eithaf a datblygu eich hyder drwy ystod o gyrsiau, gweithdai a thiwtorialau untro. Mae pob un o'n staff yn gymwys iawn a chanddynt flynyddoedd o brofiad gan roi cyngor a chymorth cyfeillgar a phroffesiynol. Edrychwch ar yr amrywiaeth o bethau rydym yn eu cynnig:
Ewch i gwrs neu weithdy
Gallwch weld beth sy'n digwydd dros yr wythnosau nesaf; Mae llawer o ddewis.
Eisiau cael rhagolwg o'r holl ddigwyddiadau y tymor hwn? Cliciwch yma i weld ein Catalog Cyrsiau Hydref / Gaeaf 24