Bydd y cwrs hwn yn eich cefnogi wrth i chi ymgartrefu yn y brifysgol, gan eich helpu i ganolbwyntio ar eich nodau wrth ddysgu sgiliau newydd hanfodol i chi er mwyn llwyddo yn y brifysgol. Byddant hefyd yn tynnu sylw at yr holl wasanaethau sydd ar gael os oes angen rhywfaint o help arnoch.
ADRAN 1: Beth yw diben Addysg Uwch?
Bydd yr crws hon yn eich cyflwyno chi i sut brofiad yw bywyd ac astudio yn y Brifysgol a bydd yn rhoi cyngor ar sut i wneud y mwyaf o’ch amser yma. Byddwch chi hefyd yn dysgu am ffynonellau cyngor, arweiniad a chymorth.
ADRAN 2: Cyflwyniad i sgiliau myfyrwyr
Sicrhewch ddechreuad da yn y Brifysgol drwy ddysgu’r sgiliau allweddol y bydd eu hangen arnoch chi er mwyn llwyddo’n academaidd. Yn yr crws hon, byddwch chi’n dysgu am ddulliau dysgu gwahanol er mwyn eich helpu chi i gyflawni eich potensial a’r arddulliau addysgu y byddwch chi’n dod ar eu traws yn ystod eich amser yma.
ADRAN 3: Uniondeb Academaidd
Datblygwch ddealltwriaeth o werthoedd craidd arfer academaidd da. Bydd yr adran hon yn rhoi trosolwg i chi o ran sut i gyfeirnodi yn gywir ac elfennau eraill arfer academaidd da fel na fyddwch chi’n cyflawni camymddygiad academaidd yn anfwriadol.