Rydym yn cynnig ystod o adnoddau ar-lein am ddim, sydd ar gael i bob fyfyriwr. Gallwch wneud cymaint ag y dymunwch yn ystod eich amser yn y brifysgol. Mae ein cyrsiau ar-lein yn cwmpasu pontio i brifysgol, sgiliau astudio, uniondeb academaidd, darllen, ysgrifennu a mathemateg ac ystadegau.

Porwch drwy'r Catalog Ar-lein i gael gwybod mwy ac ymuno â'n hadnoddau ar-lein

Llwyddiant Academaidd:

Mae Llwyddiant Academaidd yn gwrs Canvas a luniwyd i’ch cefnogi chi wrth i chi ymgartrefu yn y Brifysgol. Bydd yr adrannau’n eich helpu chi i ganolbwyntio ar eich nodau, datblygu dealltwriaeth o werthoedd craidd uniondeb academaidd ac yn addysgu’r sgiliau newydd hanfodol i chi y bydd eu hangen arnoch chi i lwyddo ym myd addysg uwch. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar yr holl wasanaethau sydd ar gael os bydd angen cymorth arnoch chi.

Darganfod mwy...
Myfyriwr yn graddio

Hwb Mathemateg

Mae’r Hwb Mathemateg yn gwrs Canvas sy’n llawn adnoddau er mwyn eich helpu chi i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, gan eich cynorthwyo chi ag ystod o gysyniadau Mathemateg efallai y byddwch chi’n dod ar eu traws yn ystod eich cyfnod mewn addysg uwch; o bynciau TGAU cynnar i gynnwys Mathemateg Bellach Safon Uwch. 

Cofrestru
Maths Icons

Sgiliau Astudio Hanfodol

Mae’r cwrs Sgiliau Astudio Hanfodol yn gwrs Canvas sy’n llawn adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol ar gyfer darllen academaidd, ysgrifennu traethodau a sgiliau astudio allweddol eraill. Mae pob adnodd yn gryno a chaiff eich cynnydd ei gadw wrth i chi fynd yn eich blaen felly gallwch chi roi hwb i’ch sgiliau eich hun ar eich cyflymder eich hun. 

 
Cofrestru
Sgiliau Astudio Hanfodol

Llunio Adroddiadau

Mae Llunio Adroddiadau'n gwrs Cwestiynau Cyffredin ar Canvas sy'n llawn adnoddau e-ddysgu rhyngweithiol yn seiliedig ar gwestiynau cyffredin megis: Beth yw adroddiad a sut mae'n wahanol i fathau eraill o ysgrifennu academaidd? Sut gallaf gael marciau uwch? A pha rannau sydd i adroddiad? Mae pob pecyn cwestiynau'n cael ei ateb yn gryno ond mae sleidiau manwl i roi'r cyfle gorau i chi ddysgu ar ben eich astudiaethau presennol.

Cofrestru
edrych ar adroddiad