Bob blwyddyn mae'r Brifysgol yn cynnal Arolygon Profiad Myfyrwyr er mwyn casglu'ch adborth ar eich profiad yn y Brifysgol a sut y gellir ei wella. Rydym yn defnyddio eich adborth i helpu i ddatblygu cyrsiau a chyfleusterau yn Abertawe ac i wella profiad y myfyrwyr. Mae pob Ysgol yn creu cynllun gweithredu ar gyfer y newidiadau i'w gwneud o ganlyniad i'ch adborth.
Mae atebion gan fyfyrwyr blwyddyn olaf yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn chwarae rôl bwysig o ran helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble i astudio a beth i astudio. Mae'r data a gyhoeddir ar Unistats bob blwyddyn yn galluogi darpar fyfyrwyr i gymharu cyrsiau Addysg Uwch mewn sefydliadau gwahanol. Ar lefel genedlaethol mae'r data yn rhoi sicrwydd ansawdd ac atebolrwydd i bob prifysgol.
Mae'r arolygon yn cynnwys cwestiynau am:
- Cymorth Academaidd
- Addysgu ar fy nghwrs
- Adnoddau dysgu
- Trefniadaeth a rheolaeth
- Cyfleoedd dysgu
- Asesu ac Adborth
- Llais Myfyrwyr