Diolch wedi'i ysgrifennu ar draws rîl ffilm

Diolch i bawb a roddodd eu hadborth i ni am Brifysgol Abertawe

Felly beth sy'n digwydd nesaf...?

  • Mae'r canlyniadau'n cael eu dadansoddi a'u trafod gyda'ch Ysgol
  • Bydd cynlluniau gweithredu yn cael eu datblygu i wneud gwelliannau yn seiliedig ar eich adborth
  • Gyda'n gilydd byddwn yn gwneud newidiadau cadarnhaol ar draws y campws

 

Arolwg Profiad Myfyriwr Ymchwil Ôl-raddedig (APOY) 2026

Dyma'ch cyfle i roi eich adborth am brofiad myfyriwr ymchwil ôl-raddedig yn Abertawe. Mae'r Brifysgol yn rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i ganlyniadau'r arolwg blynyddol hwn a chânt eu cynnwys mewn prosesau gwneud penderfyniadau ar bob lefel, gan effeithio ar feysydd allweddol megis goruchwylio, hyfforddi, addysgu, lle ac adnoddau i ymchwil.

Cymerwch ychydig funudau i ddweud eich dweud yn ein harolwg cyfrinachol. Ar ôl cwblhau, byddwch yn cael eich cynnwys yn awtomatig yn ein raffl wobrau lle gallech ennill £100 arian parod:

Cwblhewch yr arolwg