Amgylchiadau Esgusodol
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau/amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr, a all eu rhwystro rhag cyflwyno gwaith cwrs neu ymgymryd ag asesiadau. Lluniwyd y cyfarwyddyd hwn i’ch helpu i ddeall beth dylech ei wneud os ydych yn profi anawsterau personol neu amgylchiadau esgusodol sydd yn eich barn chi’n effeithio ar eich astudiaethau.
Os ydych chi’n ei chael hi'n anodd bodloni unrhyw derfynau amser neu baratoi ar gyfer/gwblhau aseiniadau ac rydych am gyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol, dilynwch y cyfarwyddwyd a ddarperir gan eich Cyfadran ar Hyb Canvas eich Ysgol. Gall Tîm Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr eich Cyfadran roi rhagor o gyngor yn ôl yr angen.
Os bydd eich Cyfadran/Ysgol yn cefnogi eich cais, y canlyniad mwyaf tebygol yw cynnig asesiad/estyniad i chi. Fel arall, mewn rhai achosion gellid cynnig gohiriad i chi.
Mae gohiriad yn golygu gohirio asesiad tan y cyfnod asesu nesaf; er enghraifft, ar gyfer myfyrwyr ar raglenni sy'n dechrau ym mis Medi, gellid gohirio asesiad mis Mai/Mehefin tan gyfnod asesu mis Awst os caiff eich cais am amgylchiadau esgusodol ei gymeradwyo.