Cynghorir myfyrwyr yn gryf i beidio â defnyddio offer AI Cynhyrchiol yn ystod Arholiadau Llafar Uniondeb Academaidd. Mae proses yr Arholiad Llafar yn gyfle i chi arddangos eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth eich hun, a dylech chi fod yn barod i ateb cwestiynau’n annibynnol ac yn eich geiriau eich hun.
Ni all offer AI Cynhyrchiol adlewyrchu eich gwybodaeth bersonol yn gywir ac efallai na fydd yn cynhyrchu atebion sy’n cynrychioli eich gwir ddealltwriaeth. Mae atebion dilys yn helpu i sicrhau bod Panel yr Arholiad Llafar yn gallu gwneud asesiad teg a gwybodus.