Rheoliadau ASESU penodol ar gyfer y MODIWLAU CANLYNOL:

  • Rhagnodi anfeddygol i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, (NSNM00)
  • Rhagnodi anfeddygol ar gyfer nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd (NSNM01)
  • Nyrs Ymarferydd Cymunedol neu Fydwraig Sy'n Rhagnodi (V150) (NSNM02)

Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y modiwl annibynnol a myfyrwyr sy'n astudio rhaglen lle mae'r modiwl yn rhan o ddyfarniad.

S1
Y marc pasio ar gyfer pob cydran asesu fydd 50% oni nodir marc pasio uwch fel arall.

S2
Bydd methu sefyll arholiad/gwneud iawn am asesiad a fethwyd neu fethu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a bennir gan neu ar ran y Brifysgol yn arwain at gofnodi marc o 0% ar gyfer y gydran dan sylw.

S3
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy’n absennol o’r modiwl ail-wneud y modiwl ar y cyfle cyntaf posibl, o fewn cyfnod hwyaf posibl ei ymgeisyddiaeth. 

S4
Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, os yw ymgeiswyr yn methu gwneud iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll a bennir gan neu ar ran y Brifysgol oherwydd amgylchiadau esgusodol neu yn methu'r modiwl ar y cyfle cyntaf yn ystod y cyfnod ailsefyll (h.y. fel gohiriad), gallant gyflwyno tystiolaeth o'r amgylchiadau hynny i'w Cyfadran/Hysgol eu hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir cynnig i ymgeiswyr o'r fath un cyfle arall i ailsefyll.  Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) ar y pwynt(iau) asesu nesaf ar gyfer y modiwl ar y cyfle nesaf ond o fewn cyfnod hiraf yr ymgeisyddiaeth.

S5

Rhoddir un cyfle i ymgeiswyr sy'n methu cyflawni'r marc pasio mewn unrhyw gydran asesu i wneud iawn am y methiant a rhaid iddynt ailsefyll yr holl elfennau asesu fel y’i nodir gan y Gyfadran/yr Ysgol.

S6
Waeth beth fo'r gwir farc, bydd marciau'r holl asesiadau ailsefyll yn cael eu capio ar 50% neu'r marc pasio os yw hwn yn uwch. Ar gyfer unrhyw asesiad sy'n gofyn am farc pasio o 100%, y gwir farc fydd yn berthnasol. Ni fydd marciau ar gyfer cyflwyniadau cyntaf gohiriedig yn cael eu capio.

S7
Bydd methu cydran asesu  ar yr ail ymgais  yn arwain at dynnu'r ymgeisydd yn ôl o'r  Brifysgol.

S8
Ni chaiff ymgeiswyr ailsefyll unrhyw gydran asesu os ydynt wedi ennill marc pasio yn flaenorol.

S9
Bydd ymgeiswyr sy'n cael eu tynnu’n ôl  o’r Brifysgol yn cael cyfle i apelio yn erbyn y penderfyniad hwn drwy'r weithdrefn Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu’r weithdrefn Apeliadau Academaidd.

  1. Bernir na fydd myfyrwyr sy’n methu nodi problem ddifrifol neu roi ateb a fyddai’n achosi niwed i’r claf, fel y penderfynir gan a Brifysgol, neu ar ei rhan, yn ystod unrhyw gydran asesu crynodol, a byddant yn cael marc o 0% ac yn methu’r modiwl.
  2. Bydd myfyrwyr yn colli’r hawl i wneud yn iawn am fethu, pan nodwyd ymarfer peryglus. Bydd y myfyriwr yn cael ei dynnu’n ôl  o’r modiwl.
  3. Bydd gan fyfyriwr sy’n ymgymryd â modiwl SHGM22 fel modiwl dewisol mewn rhaglen astudio un cyfle i ddewis ac ymgymryd â modiwl dewisol arall os yw’n cael ei dynnu’n ôl o SHGM22 oherwydd ymarfer peryglus. Un cynnig yn unig fydd y myfyrwyr hyn yn ei gael ar gyfer y modiwl arall, ac ni fyddant yn cael cyfle i wneud yn iawn am unrhyw asesiadau a fethwyd.
  4. Gall myfyrwyr sydd wedi methu SHGM22 oherwydd ymarfer peryglus wneud cais unwaith eto i gael eu derbyn i'r modiwl. Os yw eu cais yn llwyddiannus ac maen nhw’n ailgofrestru ar y modiwl, bydd yn ofynnol i fyfyrwyr fynd i bob sesiwn addysgu ac ymarfer, a bydd yn rhaid iddynt lwyddo ym mhob asesiad. 

* Yr asesydd, y cymedrolwr a’r asesydd allanol fydd yn gwneud y dyfarniad hwn gan ddefnyddio eu barn academaidd clinigol.

Dyma enghreifftiau o ymarfer peryglus o bresgripsiynu anfeddygol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt):

  • Rhagnodi cyffur nad yw'n cael ei argymell heb gyfiawnhad rhesymol ar gyfer y cyflwr hwnnw pan fo digon o ddewisiadau amgen ar gael.
  • Rhagnodi cyffur a awgrymir na ddylid ei ddefnyddio ar gyfer y cyflwr hwnnw.
  • Rhagnodi cyffur nad oes ei angen ar y claf (e.e. gwrthfiotig heb dystiolaeth o haint yn y darlun clinigol).