Gradd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS)
Mae'r dudalen we hon dan ddatblygu, cysylltwch â Master’s in Physician Associate Studies (MPAS) - Swansea University am y wybodaeth gyfredol
1. Cyflwyniad
1.1
Caiff Graddau Meistr, Diplomâu Ôl-raddedig neu Dystysgrifau Ôl-raddedig eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
- Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu llywio ganddynt.
- Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu ysgolheictod uwch.
- Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth o fewn y ddisgyblaeth.
- Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr i:
- i werthuso’n feirniadol ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch o fewn y ddisgyblaeth;
- i werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt a, lle bo'n briodol, gynnig damcaniaethau newydd.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
- Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a chyfathrebu casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
- Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol wrth gynllunio a chynnal tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
- Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
A bydd gan ddeiliaid:
- Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
- Arfer menter a chyfrifoldeb personol;
- Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy;
- Y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus.
2. Strwythur y Rhaglen
2.1
Mae'r Radd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol (MPAS) yn rhaglen llawn amser yn seiliedig ar 180 credyd ar lefel 7: 100 credyd i'w gwneud ym mlwyddyn 1, ac 80 credyd ym mlwyddyn 2. Bydd y rhaglen MPAS yn cael ei haddysgu dros ddwy flynedd
2.2
Mae'r rhaglen wedi'i strwythuro yn y fath fodd fel bod gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau ymarfer clinigol. Lle bydd myfyrwyr yn destun asesiad o gymhwysedd proffesiynol yn dilyn cyfnod o leoliad ymarfer, rhaid bod y canlyniad yn seiliedig ar gredydau.
2.3
Bydd lefel yr astudiaeth ar lefel 7 y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).
2.4
Mae strwythur y rhaglen wedi'i arwain gan ddeilliannau dysgu generig ac a rennir y Cydymaith Meddygol (PA) a'r Cydymaith Anaesthesia (AA) (y Cyngor Meddygol Cyffredinol 2022). a chwricwlwm y cydymaith meddygol (Cyfadran Cymdeithion Meddygol (FPA) 2022);
3. Amodau Mynediad
3.1
Derbynnir ymgeiswyr i'r rhaglen astudio yn unol â gofynion penodol y rhaglen a rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ynghylch Matriciwleiddio. Yn ogystal ag isafswm gradd C (neu gyfwerth) mewn TGAU Mathemateg a Cymraeg/Saesneg, rhaid i ymgeiswyr am y dyfarniad MPAS feddu ar un o'r cymwysterau canlynol cyn dechrau astudio:
- Gradd Baglor gychwynnol neu radd Meistr integredig gyda 2:2 o leiaf mewn pwnc gofal iechyd neu fiowyddorau neu radd gyfwerth a gydnabyddir yn rhyngwladol;
- Gradd Baglor israddedig gychwynnol neu radd Meistr integredig gyda 2:1 o leiaf mewn pwnc nad yw'n ymwneud â gofal iechyd neu fiowyddorau neu radd gyfwerth a gydnabyddir yn rhyngwladol;
- Yn ogystal, rhaid i bob ymgeisydd ddarparu tystiolaeth o brofiad gwaith perthnasol a dangos gwerthoedd yn unol â Chyfansoddiad y GIG. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yn unigol.
3.2
NI FYDD y rhaglen Astudiaethau Cydymiith Meddygol yn agored i:
- Ymgeiswyr sydd eisoes wedi cofrestru ar raglen Cydymaith Meddygol;
- Ymgeiswyr sydd eisoes wedi dechrau rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol, Meddygaeth neu raglen sy'n gysylltiedig ag iechyd ac nad ydynt wedi symud ymlaen oherwydd materion yn ymwneud â methiant academaidd, addasrwydd i ymarfer neu broffesiynoldeb.
- Ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am gredyd Cydnabod Dysgu Blaenorol mewn perthynas â chymwysterau neu brofiad blaenorol;
- Ymgeiswyr sy'n dymuno trosglwyddo o raglen Cydymaith Meddygol arall.
3.3
Cyn cael ei dderbyn i'r rhaglen astudio, rhaid i'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd sicrhau bod ymgeisydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig. Yn ogystal â'r isafswm gradd C neu gyfwerth mewn Cymraeg/Saesneg y cyfeiriwyd ato yn flaenorol, rhaid i ymgeiswyr nad ydynt o wlad a restrir lle mae’r mwyafrif yn siarad Saesneg neu nad ydynt wedi cwblhau gradd gyntaf mewn gwlad ar y rhestr gael sgôr IELTS o 7.0 yn gyffredinol, gyda 7.0 ym mhob cydran. Gellir ystyried graddau cyfwerth a gellir gweld rhagor o wybodaeth am hyn o dan y Gofynion Iaith Saesneg.
3.4
Bydd gofyn i ymgeiswyr fodloni gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) a gwiriad iechyd galwedigaethol boddhaol hefyd.
3.5
Bydd ymgeiswyr hefyd yn cael eu cyfweld i asesu eu haddasrwydd i gyflawni nodau'r rhaglen.
4. Cofrestru yn y Brifysgol
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod yn fyfyriwr yn y Brifysgol. Dylai pob ymgeisydd gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru a bennir.
4.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Wrth gofrestru yn y Brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol sy'n berthnasol i gyllid a ffioedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bo’n berthnasol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio;
- y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.
4.4
Os na fydd ymgeisydd yn cofrestru o fewn y cyfnod penodedig, bydd ei ymgeisiaeth yn dod i ben a bydd rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol. Bydd ceisiadau i adfer yr ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr yn cael eu hystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr.
4.5
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodol yn unol â deddfau'r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, o fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl am iddynt fethu â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodol.
4.6
Wrth gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn bod disgwyl iddynt gydymffurfio â chanllawiau'r Gyfadran/Ysgol ar ymddygiad proffesiynol, yn unol â'r hyn a gyhoeddir yn llawlyfr y rhaglen.
4.7
Fel myfyrwyr cofrestredig, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gymryd rhan yn rhaglen frechu'r Gyfadran/Ysgol.
4.8
Fel arfer, ni chaniateir cofrestru myfyrwyr ar yr un pryd ar raglen Tystysgrif Ôl-raddedig, Diploma Ôl-raddedig neu radd Meistr arall sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol/sefydliad hwn neu sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau. Am wybodaeth fanwl, gweler pwynt 1.4 "Rheoliadau Ôl-raddedig Cyffredinol - Prifysgol Abertawe.
5. Ymestyn Ymgeisyddiaeth
5.1
Bydd modiwlau’n cael eu cwblhau fel y pennir gan y Gyfadran/Ysgol, a bydd asesiadau’n cael eu cwblhau erbyn y dyddiadau a bennir gan y Gyfadran/Ysgol. Caiff y rhaglen radd gyfan ei chwblhau o fewn y terfynau amser canlynol o'r dyddiad cofrestru gwreiddiol:
| Modd astudio | Llawn amser |
|---|---|
| Ymgeiswyr llawn amser | Ymgeiswyr llawn amser. Fel arfer, dim llai na 24 mis a dim mwy na thair blynedd. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir caniatáu pedwaredd flwyddyn, lle mae'r Rheoliadau Proffesiynol yn gofyn am hynny. |
5.2
Fel arfer, bydd myfyrwyr yn cwblhau eu hastudiaethau erbyn y terfynau amser canlynol oni bai bod amseroedd amgen yn cael eu cymeradwyo ar gyfer rhaglen benodol gan y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
Ymgeiswyr llawn amser: diwedd y 24ain mis (2 flynedd)
5.3
Ni chaiff ymgeisydd sy'n methu cwblhau o fewn yr amserlen a nodwyd gwblhau'r rhaglen oni awdurdodir estyniad yn ffurfiol gan y Pwyllgor perthnasol yn y Brifysgol (gyda chefnogaeth y Gyfadran/Ysgol). Heb estyniad awdurdodedig, mae'r ymgeisydd yn gymwys ar gyfer y cymhwyster ymadael priodol yn unig - Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd. Dylid nodi na fydd estyniad o’r fath yn ymestyn cyfnod astudio’r rhaglen gyfan yn awtomatig.
6. Ymestyn Terfynau Amser
6.1
Gellir ymestyn ymgeisyddiaeth y myfyriwr, ond dim ond mewn achosion eithriadol ac yn unol â'r meini prawf canlynol:
- Fel arfer, ni chaniateir estyniadau ac eithrio am resymau tosturiol neu resymau’n ymwneud â salwch difrifol, neu anawsterau difrifol gartref y gellir dangos eu bod wedi cael effaith niweidiol ar yr ymgeisydd. Rhaid i’r Ysgol Feddygaeth wneud achos llawn a rhesymegol, gyda thystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i’r Brifysgol ei ystyried.
- Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch fel y'u disgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos. Rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch ac yn tybio bod yr estyniad y gwneir cais amdano yn briodol. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, dylai datganiad o’r fath gael ei wneud ar ôl cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Ysgol.
6.2
Rhaid cyfeirio ceisiadau am estyniadau trwy Gyfadran/Ysgol yr ymgeisydd at y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a bydd yr achos yn cael ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Safonau ac Ansawdd
7. Modiwlau o fewn y Rhaglen
7.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys modiwlau sy'n cynnwys 10, 20 a 40 o bwyntiau credyd.
7.2
Tybir bod pob modiwl yn fodiwl craidd. Rhaid i fyfyriwr ddilyn a phasio modiwlau craidd cyn y gall symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
7.3
Gan y tybir bob pob modiwl yn fodiwl craidd, ni chaniateir trosglwyddo i fodiwl arall. Fel arfer, disgwylir i fyfyrwyr astudio'r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe.
7.4
Ni chaniateir i fyfyrwyr ddilyn modiwlau nad ydynt yn ofyniad o’r rhaglen astudio yn ogystal â’r llwyth credydau llawn amser o 100 credyd ym Mlwyddyn 1 ac 80 credyd ym Mlwyddyn 2.
8. Lleoliadau
8.1
Bydd gofyn i fyfyrwyr fynychu lleoliadau clinigol yn unol â gofynion y Rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
8.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd â'r holl asesiadau sy'n ymwneud â'r lleoliadau clinigol a chyflawni'r cymwyseddau gofynnol fel y nodir yn y Cynllun Asesu Cydymaith Meddygol ac a nodir yn y cwricwlwm Cydymaith Meddygol (FPA, 20220; Deilliannau dysgu Cydymaith Meddygol ac AA generig ac a rennir ac asesiad cofrestru Cydymaith Meddygol (PARA) (FPA, y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2022).
8.3
Yn ogystal â lleoliadau clinigol, disgwylir i ymgeiswyr fynychu lleoliad a ddewisir ar gyfer y myfyriwr, yn ystod yr ail flwyddyn astudio fel arfer.
8.4
Ymgymerir â'r lleoliad gwaith dewisol hwn yn unol ag adran Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU ar weithio gydag eraill a chanllawiau'r Brifysgol a gyhoeddwyd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Sicrhau Ansawdd.
9. Ymgysylltu
9.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr gadw at y gofynion ymgysylltu fel yr amlinellir yn y Datganiad ar Ymgysylltu.
9.2
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr fynychu'r brifysgol a’r lleoliad yn unol â pholisi presenoldeb ac ymgysylltu'r Brifysgol, gofynion y rhaglen a safonau a amlinellir yn Cyflawni Ymarfer Meddygol Da: safonau interim ar gyfer myfyrwyr cydymaith meddygol a myfyrwyr cydymaith anaesthesia (y Cyngor Meddygol Cyffredinol, 2022). Gall methu â bodloni'r gofynion hyn effeithio ar ddilyniant myfyrwyr ar y rhaglen ac arwain at fethu â chofrestru â'r corff proffesiynol, statudol neu reoleiddio.
9.3
Bydd trefniadau bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n cael cyllid Llywodraeth Cymru yn cael eu hatal os ydynt yn absennol oherwydd salwch am fwy na 60 diwrnod.
10. Modd a Phatrwm Presenoldeb
10.1
Llawn amser yn unig fydd modd mynychu'r rhaglen hon. Disgwylir i ymgeiswyr llawn amser ddilyn 100 pwynt credyd ym Mlwyddyn 1; 80 pwynt credyd ym Mlwyddyn 2.
10.2
Bydd y patrwm presenoldeb yn cynnwys cyfnodau o flociau dysgu a lleoliadau clinigol.
11. Llawlyfr
11.1
Bydd llawlyfr y Gyfadran/Ysgol, neu'r hyn sy'n cyfateb iddo, ar gael i bob myfyriwr pan fydd yn dechrau ar ei astudiaethau, neu cyn hynny.
12. Gohirio Astudiaethau
12.1
Ystyrir ceisiadau i ohirio astudiaethau yn unol â Rheoliadau Prifysgol Abertawe ynghylch Gohirio Astudiaethau.
13. Trosglwyddo Rhaglenni
13.1
Dim ond gyda chaniatâd Cyfarwyddwr y Rhaglen a'r Pwyllgor Recriwtio a Derbyn y bydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen MPAS yn cael trosglwyddo i raglen arall ym Mhrifysgol Abertawe.
14. Cynnydd a Phroffesiynoldeb
14.1
Disgwylir i fyfyrwyr ddangos y safonau uchaf o ymddygiad cyffredinol a phroffesiynol trwy gydol y rhaglen. Bydd myfyrwyr y mae eu perfformiad academaidd, ymgysylltiad, ymddygiad proffesiynol neu ansawdd eu gwaith yn cael eu hasesu fel bod yn anfoddhaol yn cael eu hystyried yn yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad. Pan fydd ymddygiad neu broffesiynoldeb myfyriwr yn peri pryder, bydd yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad yn sefydlu, trwy Ymchwiliad Addasrwydd i Ymarfer mewnol, a oes achos prima facie bod addasrwydd y myfyriwr i ymarfer wedi’i amharu. Yn dilyn ymchwiliad, gellir rhoi sancsiwn a/neu rybuddion i fyfyriwr, neu gellir ei atgyfeirio i Bwyllgor Ymchwilio Addasrwydd i Ymarfer, o dan Reoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
14.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo ac ymddwyn yn unol â chanllawiau ar ymddygiad fel Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol, y rhai a gyhoeddir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol; Cyflawni Ymarfer Meddygol Da: Canllaw Interim ar gyfer Myfyrwyr Cydymaith Meddygol a Myfyrwyr Cydymaith Anaesthesia, a'r safonau a nodir yn y Cwricwlwm Cydymaith Meddygol, a pharchu'r canllawiau hynny.
14.3
Bydd “proffesiynoldeb” yn cael ei asesu'n ffurfiol gan y Gyfadran/Ysgol. Bydd gallu myfyriwr i gyflawni'r elfennau proffesiynol gofynnol yn cyfrannu at asesiad academaidd y myfyriwr yn y brifysgol ac ar leoliad, sef p'un a yw'n pasio neu'n methu'r rhaglen.
14.4
Mae ymddygiad annerbyniol yn cyfeirio at ymddygiadau cyffredinol y mae myfyriwr yn eu dangos ac nad ydynt yn bodloni'r safonau a bennir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, a disgwyliadau'r Polisi ar gyfer Ymdrin â Phryderon Myfyrwyr Gan Gynnwys Amhariad Posibl ar Addasrwydd i Ymarfer, a bydd y Gyfadran/Ysgol yn ymdrin â'r ymddygiad hwnnw yn unol â'i Gweithdrefnau.
14.5
Bydd unrhyw fethiant i newid yr ymddygiad, neu unrhyw achos difrifol o ymddygiad annerbyniol, yn arwain at gyfeirio'r achos at sylw'r Brifysgol o dan y Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.
.
15. Absenoldeb Myfyrwyr
15.1
Rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r gyfadran am unrhyw absenoldeb o addysgu neu leoliadau yn unol â chanllawiau monitro presenoldeb ac adrodd absenoldeb y Rhaglen Astudiaethau Cydymaith Meddygol a amlinellir yn Llawlyfr y Rhaglen ac ar Hafan Hwb Canvas. Rhaid i fyfyrwyr hysbysu lleoliadau am unrhyw absenoldeb hefyd. Gall absenoldeb gormodol neu fethu â rhoi gwybod am absenoldebau dro ar ôl tro arwain at fethu â chwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
15.2
Bydd gofyn i fyfyrwyr y mae amgylchiadau yn tarfu ar eu gwaith am fwy na phum diwrnod gwaith hysbysu Tîm Lleoliadau a Chyflogadwyedd y Gyfadran a chyflwyno tystysgrif feddygol.
15.3
Caiff ymgeiswyr ofyn am absenoldeb byr o astudio. Bydd absenoldebau awdurdodedig o'r fath yn cael eu cymeradwyo gan y gyfadran.
16. Cyflwyno Asesiad yn Hwyr
16.1
Bydd y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn pennu terfynau amser ar gyfer cyflwyno asesiad. Os nad yw myfyrwyr yn cyflwyno asesiad erbyn y dyddiad cau, 0% fydd eu marc. Gall myfyrwyr sy'n cael eu hatal rhag bodloni terfynau amser o'r fath oherwydd amgylchiadau esgusodol ofyn am i'w hamgylchiadau esgusodol gael eu hystyried, fel yr amlinellir ym mholisi esgusodol y Brifysgol a'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd. Gall myfyrwyr gael estyniad o hyd at saith diwrnod neu ohiriad yn dibynnu ar yr asesiad ac amgylchiadau unigol y myfyriwr.
17. Darpariaeth Arbennig
17.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Gyfadran/Ysgol berthnasol am unrhyw anabledd neu amgylchiadau esgusodol a all godi angen am ddarpariaeth arbennig o ran asesu. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno dogfennaeth briodol i ategu hyn. Bydd pob cais, boed o ganlyniad i anabledd hirdymor neu amgylchiadau tymor byr, yn cael ei nodi ar y ffurflen briodol a’i ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig os oes modd.
17.2
Ceir rhagor o fanylion a chanllawiau ar drefniadau arholi arbennig ym Mholisi Addasiadau Rhesymol ar gyfer Dysgu ac Asesu y Brifysgol.
18. Amgylchiadau Esgusodol
18.1
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gweithredu polisi "Addas i Sefyll Arholiad" mewn perthynas ag asesu. Os yw ymgeisydd yn cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau, tybir ei fod yn ffit i gymryd rhan yn yr asesiad ac ni fydd y Bwrdd Arholi'n derbyn nac yn ystyried tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a fodolai cyn yr asesiad, a gyflwynir wedi'r asesiad. Bydd manylion llawn y polisi hwn yn cael eu cyhoeddi yn llawlyfr y rhaglen ac ar Hafan Hwb Canvas.
18.2
Bydd y Brifysgol yn cymryd yn ganiataol, oni bai bod y Gyfadran yn cael manylion ynghylch amgylchiadau eithriadol, na effeithiwyd ar y myfyriwr yn ormodol cyn neu yn ystod yr asesiad dan sylw.
18.3
Bydd yn ofynnol i fyfyriwr sydd wedi bod yn absennol o arholiad roi gwybod i'r Gyfadran/Ysgol yn ddi-oed. Yn achos salwch, bydd yn ofynnol i'r myfyriwr ei hun gyflwyno tystysgrif feddygol hefyd.
18.4
Dylai’r holl fyfyrwyr nodi mai eu cyfrifoldeb nhw yw sicrhau bod y Gyfadran yn ymwybodol cyn gynted â phosibl o unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar eu perfformiad naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Ni fydd apeliadau academaidd yn seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi eu dwyn i sylw'r Gyfadran cyn cyfarfod y byrddau arholi yn cael eu hystyried fel arfer.
19. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr Allanol
19.1
Cynhelir pob arholiad dan awdurdod rheoliadau'r Brifysgol ar gyfer arholi ac asesu.
19.2
Enwebir a phenodir Arholwyr Allanol yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yng Nghod Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol.
20. Arholiadau
20.1
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu yn y Sefydliad lle maen nhw wedi dilyn y rhaglen astudio.
20.2
Gall unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn rhaglen astudio yn y Brifysgol wneud cais – heb ystyried ai Saesneg neu'r Gymraeg yw prif iaith asesu’r rhaglen dan sylw – am gyflwyno sgriptiau arholiad neu waith ar gyfer ei asesu yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Ymdrinnir â cheisiadau o’r fath yn unol â’r Canllawiau ar Asesu ac Arholi drwy gyfrwng y Gymraeg neu mewn Iaith ar wahân i’r Iaith Addysgu a Chymedroli ac Asesu.
20.3
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus yn gymwys i wneud Asesiad Cofrestru cenedlaethol Cydymaith Meddygol (PARA). Mae'n ofynnol i fyfyrwyr gwblhau a phasio'r PARA i ymarfer fel Cydymaith Meddygol cymwysedig. Mae'r asesiad hwn yn cael ei drefnu a'i reoli'n allanol gan uned asesiadau Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar ran y Cyngor Meddygol Cyffredinol. Mae'n ofynnol i'r Brifysgol hysbysu uned asesu RCP a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol o'r holl fyfyrwyr sy'n gallu gwneud yr asesiad. Ar ôl cwblhau'r arholiad hwn yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr wedyn yn gymwys i gofrestru â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
20.4
Ni fydd y Brifysgol yn talu cost yr Arholiad Cenedlaethol.
21. Trosglwyddiadau Credyd
21.1
Nid yw trosglwyddiadau credyd yn gymwys i'r rhaglen MPAS.
22. Cymwysterau Ymadael
22.1
Gall myfyriwr sy'n cael ei dderbyn i'r rhaglen fod yn gymwys i gael cymhwyster ymadael (gweler G24 o’r Rheoliadau Asesu Cyffredinol ar gyfer Gradd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol).
22.2
Ni fydd myfyrwyr sy'n cael cymhwyster ymadael yn gymwys i sefyll yr Asesiad Cofrestru Cydymaith Meddygol cenedlaethol (PARA). (gweler 20.3).
23. Cymhwysedd am Ddyfarniad
23.1
I fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad MPAS y Brifysgol, bydd myfyrwyr yn cwblhau'r holl fodiwlau o fewn uchafswm y cyfnod cofrestru.
24. Derbyniadau i Raddau
24.1
I fod yn gymwys i gael ei ystyried ar gyfer y dyfarniad MPAS o dan y Rheoliadau hyn, bydd myfyriwr wedi:
- Dilyn y rhaglen astudio fodiwlaidd gymeradwy am y cyfnod a bennir gan y Brifysgol;
- Ennill 180 o gredydau fel y'i nodir gan y Brifysgol;
- Bodloni'r arholwyr ym mhob maes, gan gynnwys ymddygiad proffesiynol;
- Bodloni unrhyw amod(au) pellach a bennir gan y Brifysgol.
25. Apeliadau Academaidd
25.1
Cynhelir apeliadau Academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd ac Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
26. Camymddwyn Academaidd
26.1
Caiff honiadau o gamymddwyn academaidd eu hystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
27. Addasrwydd i Ymarfer
27.1
Caiff honiadau nad yw myfyriwr yn ‘addas i ymarfer’ eu hystyried yn unol â’r Polisi Cydymaith Meddygol ar gyfer Ymdrin â Phryderon Myfyrwyr gan gynnwys Nam Posib o ran Addasrwydd i Ymarfer, a allai gynnwys atgyfeirio i Reoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
28. Gradd Aegrotat
28. Gradd Aegrotat
28.1
Ni fydd myfyrwyr sy'n dilyn y rhaglen MPAS yn gymwys i gael gradd Aegrotat. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu hystyried am y dyfarniadau ymadael. Nid yw dyfarniad ymadael yn rhoi cymhwystra i sefyll y PANE allanol.
29. Gradd ar ôl Marwolaeth
29.1
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn y rhaglen MPAS yn gymwys i gael gradd ar ôl marwolaeth. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i gael eu hystyried am y dyfarniadau ymadael.
Rheoliadau Asesu Cyffredinol Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheolau Asesu Cyffredinol
G1
Er mwyn symud ymlaen o flwyddyn 1 i flwyddyn 2, rhaid i fyfyrwyr gronni 100 credyd. Er mwyn symud ymlaen o flwyddyn 2 i'r Asesiad Cofrestru Cydymaith Meddygol cenedlaethol (PARA), rhaid i fyfyrwyr gronni 80 credyd (yn ychwanegol at y 100 credyd ym mlwyddyn 1) a chwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus.
G2
Gall myfyrwyr sy'n cronni cyfanswm o 180 credyd fod yn gymwys i gael gradd meistr.
G3
Gall pob modiwl yn y rhaglen fod â sawl cydran asesu. Tybir bod pob modiwl sy’n gysylltiedig â’r rhaglen MPAS yn fodiwl “craidd” a rhaid i ymgeiswyr eu pasio i gyd cyn symud ymlaen o un flwyddyn i’r nesaf.
Gellir penderfynu ar berfformiad myfyriwr mewn cydran trwy farc canran neu basio/methu syml.
Bydd y marc pasio ar gyfer modiwlau'n amrywio canran y marc ar gyfer cydrannau'r asesiad a gyflwynwyd gan yr Ysgol Feddygaeth, a chaiff ei benderfynu trwy broses gosod safonau, gan eithrio'r modiwl meddygaeth ac ymchwil ar sail tystiolaeth. Y marc pasio ar gyfer yr asesiad hwn yw 50% fesul cydran
Rhaid i fyfyrwyr basio'r holl gydrannau asesu i gael y credydau ar gyfer y modiwl. Ystyrir bod myfyrwyr sy’n methu unrhyw gydran asesu wedi methu’r modiwl beth bynnag yw’r cyfartaledd cyffredinol, ac ni ddyfernir credydau iddynt.
G4
Rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion ymgysylltu ac asesu pob modiwl. Bydd ymgysylltiad yn cael ei fonitro yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir y Brifysgol yn ogystal â gofynion y Gyfadran/Ysgol. Dylai myfyrwyr gyfeirio at y canllawiau monitro presenoldeb ac absenoldeb a gyhoeddwyd yn llawlyfr y rhaglen ac ar Hafan Hwb Canvas.
G5
Dim ond myfyrwyr sy'n pasio modiwl fydd yn derbyn credydau.
G6
Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi cymhwyso i symud ymlaen o un flwyddyn astudio i'r llall ddewis ailadrodd unrhyw fodiwlau neu gydran asesu sydd eisoes wedi'i basio i wella eu perfformiad.
G7
Rhoddir un cyfle i fyfyrwyr wneud yn iawn am gydran asesu neu fodiwl a fethwyd.
G8
Bydd myfyrwyr y mae'n ofynnol iddynt ymgymryd ag asesiad atodol yn y modiwl ymarfer ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar yr amod eu bod yn bodloni'r arholwyr, yn cael marc wedi'i gapio ar y trothwy marc pasio o 50% ym mhob modiwl yn y gydran asesu unigol. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio/marc gorau wrth bennu'r cyfartaledd ar gyfer lefel yr astudio.
G9
Dyfernir marc pasio a bennir trwy’r broses gosod safonau i fyfyrwyr y mae’n ofynnol iddynt ymgymryd ag asesiad atodol mewn Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) ac asesiadau’r Ateb Gorau Sengl (SBA), ar yr amod eu bod yn bodloni’r arholwyr.
G10
Bydd myfyrwyr y mae'n ofynnol iddynt gyflwyno gwaith cwrs atodol yn cael eu hysbysu gan y Gyfadran am y gwaith cwrs sy'n ofynnol.
G11
Disgwylir i ymgeiswyr gwblhau blwyddyn astudio o fewn un sesiwn academaidd fel arfer.
G12
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n methu â symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf neu sy'n methu â bod yn gymwys am ddyfarniad ar ôl y cyfnod asesu atodol adael y Brifysgol. Ni fydd myfyrwyr o'r fath yn cael cyfle pellach i gwblhau eu rhaglen astudio, a dim ond ar gyfer cymhwyster ymadael y byddant yn gymwys i’w hystyried. Ni fydd ymgeiswyr sy'n derbyn penderfyniad “Mae’n ofynnol gadael y Brifysgol” yn cael gwneud unrhyw ymdrechion pellach i basio eu modiwlau ac ni fyddant yn gymwys i drosglwyddo credydau i raglen astudio arall ym Mhrifysgol Abertawe, a bydd eu hastudiaethau'n cael eu terfynu. Fel arfer, ni fydd ymgeisydd sydd â phenderfyniad "Mae’n ofynnol gadael y Brifysgol" yn cael ei aildderbyn i'r un rhaglen astudio, nac i raglen gysylltiedig, heb gymeradwyaeth y Pwyllgor Recriwtio a Derbyn.
G13
Fel arfer, rhoddir marc o 0% i ymgeiswyr nad ydynt yn ceisio gwneud yn iawn am fodiwlau a fethwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol mewn modiwlau o'r fath, a dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y rhoddir cyfle arall iddynt wneud yn iawn am y methiant.
G14
Cydnabyddir y bydd rhai myfyrwyr yn cronni 100 o gredydau mewn blwyddyn academaidd ond efallai y bydd yn rhaid iddynt ymgymryd â hyfforddiant pellach neu ychwanegol (gweler S9). Ni fydd y myfyrwyr hynny sy'n methu ymgymryd â'r hyfforddiant penodol yn llwyddo i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf nac yn gymwys am ddyfarniad gradd. Gellir ystyried y fath fyfyrwyr am ddyfarniad ymadael.
G15
Cydnabyddir na fydd rhai myfyrwyr yn gallu ymgymryd ag asesiadau oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Felly, cydnabyddir y dylai myfyrwyr o'r fath fod â'r hawl i gyflwyno cais i ohirio'r asesiad. Fel arfer, bydd yr asesiad a ohiriwyd yn cael ei drefnu yn ystod y cyfnod asesu atodol.
G16
Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn gweithredu polisi "Addas i Sefyll Arholiad" mewn perthynas ag asesu. Os yw ymgeisydd yn cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau, tybir ei fod yn ffit i gymryd rhan yn yr asesiad ac ni fydd y Bwrdd Arholi'n derbyn nac yn ystyried tystiolaeth o amgylchiadau esgusodol a fodolai cyn yr asesiad, a gyflwynir wedi'r asesiad. Cyhoeddir manylion llawn o'r polisi hwn i fyfyrwyr.
r.
G17
Dylai myfyrwyr hysbysu'r gyfadran o'u hamgylchiadau esgusodol a chyflwyno cais i ohirio asesiad cyn dyddiad yr asesiad. Ystyrir ceisiadau i ohirio asesiad yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Os yw ymgeisydd yn cyflwyno cais am ohirio asesiad ond yn ymgymryd â'r asesiad hwnnw maes o law, bydd gan yr ymgeisydd bum niwrnod gwaith o ddyddiad yr asesiad i roi gwybod i'r Ysgol am ei benderfyniad i dynnu'r cais am ohirio yn ôl ac i wneud cais am farcio'r asesiad.
G18
O dan amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Pholisi'r Brifysgol ar Amgylchiadau Esgusodol sy'n Effeithio ar Asesu, gall myfyrwyr sy'n methu gwneud yn iawn am eu modiwl(au) yn ystod y cyfnod ailsefyll oherwydd amgylchiadau esgusodol, neu sy'n methu'r modiwl ar y cynnig cyntaf yn ystod y cyfnod asesu atodol (h.y. gohiriad), gyflwyno tystiolaeth o amgylchiadau o'r fath i'r Ysgol i'w hystyried. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, gellir rhoi un cyfle arall i ymgeiswyr o'r fath ailsefyll fel ymgeiswyr allanol. Fel arfer, cynhelir yr ailasesiad(au) yn ystod y cyfnod asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw yn y flwyddyn academaidd nesaf.
G19
Ni fydd myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru fel ymgeiswyr allanol yn gymwys i gael taliadau bwrsariaeth yn ystod y cyfnod hwn.
G20
Efallai y bydd myfyrwyr sydd wedi cofrestru fel Ymgeiswyr Allanol yn gorfod talu ffi ychwanegol fel y’i pennir gan Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol.
G21
Bydd proses gosod safonau ar wahân ar gyfer ymgeiswyr allanol. Gall hyn arwain at farc pasio sy'n wahanol i'r marc ar gyfer myfyrwyr sy'n cwblhau ymgais gyntaf. Mae'r dull hwn o osod safonau’n adlewyrchu'r cam mae'r myfyrwyr wedi ei gyrraedd yn y rhaglen.
G22
Tybir bod ymgeiswyr sy'n absennol yn ystod rhan o arholiad ysgrifenedig neu o'r arholiad cyfan (neu nad ydynt yn cyflwyno prosiectau neu waith cwrs erbyn y dyddiad(au) a bennwyd) wedi methu'r modiwl(au) dan sylw. Bydd rhaid i fyfyrwyr y caniateir iddynt ohirio sefyll yr arholiadau yn y cyfnod arholiadau nesaf sydd wedi'i amserlennu ar gyfer y modiwl(au) dan sylw.
G23
Fel arfer, bydd y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol wrth benderfynu ar ddilyniant myfyrwyr. Fodd bynnag, ni ddylai myfyrwyr ddisgwyl, fel hawl, y byddant yn cael caniatâd i ymgymryd ag asesiad atodol. Gall Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ystyried amgylchiadau eraill sy’n berthnasol i achos y myfyriwr cyn gwneud penderfyniad ynghylch dilyniant. Ni fyddai disgwyl i'r bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf na chymhwyso am ddyfarniad oni bai ei fod wedi bodloni’r meini prawf gofynnol.
G24
Gall myfyriwr a dderbynnir i'r rhaglen fod yn gymwys i dderbyn cymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
- Wedi cronni’r lleiafswm credydau angenrheidiol ar gyfer y dyfarniad;
neu
- Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyflawni'r safon ofynnol o ran ymddygiad proffesiynol.
Gan ddibynnu ar nifer y credydau a gronnwyd, bydd myfyrwyr o’r fath yn gymwys, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi perthnasol, am ddyfarniad:
- Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (60 credyd)
- Diploma Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gofal Iechyd (120 credyd)
Rheoliadau Asesu Penodol y Radd Meistr mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
Rheolau i'w gweithredu yn ystod Bwrdd Dilyniant cyntaf y Brifysgol (Blwyddyn 1)
S1
Bydd ymgeiswyr sy’n casglu 100 o gredydau mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy’n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn cymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf yn awtomatig.
S2
Ni fydd myfyrwyr sy'n cronni llai na 100 o gredydau yn cymhwyso i symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf. Yn ôl argymhelliad y Bwrdd Arholi, fel arfer bydd y fath fyfyrwyr yn cael asesiad atodol yn y modiwlau a fethwyd a bydd y marciau wedi'u capio ar 50%, fodd bynnag, y marciau atodol a ddyfernir ar gyfer SBA a'r OSCE fydd y sgôr basio isaf rhwng y marc gwreiddiol a'r marc atodol. Disgwylir i fyfyrwyr ailsefyll pob arholiad ar gyfer y modiwl a fethwyd, a hefyd ailgyflwyno pob darn o waith cwrs a fethwyd yn ôl yr angen. Disgwylir i fyfyrwyr y dyfernir asesiad "wedi'i ohirio" iddynt ymgymryd â chydran benodol yn ystod y cyfnod asesu atodol.
S3
Yn achos S2 ac S3 uchod, bydd y Bwrdd Arholi'n ystyried proffil pob myfyriwr ar sail unigol a gall wneud argymhellion i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol ynghylch addasu penderfyniad diwedd y flwyddyn.
Rheolau i'w defnyddio yn ystod Bwrdd Dilyniant Atodol y Brifysgol (Blwyddyn 1)
S4
Bydd ymgeiswyr sy’n casglu 100 o gredydau mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy’n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol yn cymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf yn awtomatig.
S5
Nid yw myfyrwyr sy'n cronni llai na 100 credyd yn gymwys i symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf a bydd gofyn iddynt adael y Brifysgol. Gellir ystyried myfyrwyr o'r fath ar gyfer dyfarniad ymadael.
Rheolau ar gyfer Dyfarnu Gradd Meistr Ôl-raddedig mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol
S6
Gall myfyrwyr sy'n cronni 80 credyd yn y modiwlau a addysgir yn y flwyddyn astudio olaf ac sy'n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol fod yn gymwys i gael gradd a bydd yn gymwys i symud ymlaen i'r PARA.
S7
Fel arfer, bydd y myfyrwyr hynny sy'n cael cynnig y cyfle i ailsefyll modiwlau a addysgir yn cael eu hailsefyll yn ystod y pwynt asesu nesaf ar gyfer y modiwlau dan sylw.
S8
Ar ddiwedd y modiwl EBP ac Ymchwil, cyfrifir gradd myfyriwr trwy bennu pwysoliad pob elfen asesu sy'n cyfrannu tuag at farc y modiwl, fel yr amlygir yn y cynllun asesu. Caiff perfformiad myfyrwyr o ran sgiliau clinigol a lleoliadau gwaith a sylfeini meddygaeth glinigol eu pennu trwy farc pasio/methu.
S9
Er y gall myfyriwr fod yn gymwys am y dyfarniad, ar ôl llwyddo yn yr holl asesiadau, efallai y bydd achlysuron lle bydd yr arholwr wedi amlygu problem o ran elfen(nau) o gymhwysedd myfyriwr mewn maes ymarferol neu broffesiynol penodol nad yw mor ddifrifol fel y gallai effeithio ar y canlyniad academaidd ond y mae angen ystyriaeth bellach. Gall arholwyr amlygu problemau o'r fath trwy roi "cerdyn melyn" i'r myfyriwr yn ystod arholiad ymarferol neu drwy gyfeirio at y broblem mewn adroddiad ar yr arholiad.
Bydd yr achosion hyn yn cael eu hatgyfeirio i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau i'w hystyried fesul achos. Efallai na fydd y Bwrdd yn cymryd unrhyw gamau pellach neu efallai y bydd angen hyfforddiant pellach neu ychwanegol cyn gwneud argymhelliad ar ddyfarnu'r radd. Mewn achosion o'r fath, lle mae angen hyfforddiant pellach neu ychwanegol, dyfernir penderfyniad o "Asesiad Atodol" i fyfyrwyr. Darperir hyfforddiant yn ystod y cyfnod asesu atodol neu cyn hynny i sicrhau y gellir ailystyried canlyniadau'r myfyriwr cyn graddio. Os nad yw myfyriwr yn mynychu neu'n cymryd rhan yn yr hyfforddiant, ni fydd yn cymhwyso am y dyfarniad.
Cymhwysedd ar gyfer Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth
Bydd dosbarthiad gradd yn cael ei ddyfarnu yn ôl strwythur pwyntiau fel y manylir yn Dosbarthiad MPSA ar gyfer y Rhaglen Cydymaith Meddygol.
| Cod a chredydau'r modiwl | Teilyngdod | Rhagoriaeth |
|---|---|---|
| Ysgol Feddygaeth - 20-credyd - PAXM00 - Ymchwil ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth | 2 | 4 |
| Ysgol Feddygaeth - 40-credyd - PMXM01 - Sgiliau Clinigol Cydymaith Meddygol | 4 | 8 |
| Ysgol Feddygaeth - 40 credyd - PMXM02- Seiliau mewn Meddygaeth Glinigol ar gyfer Cymdeithion Meddygol 1 | 4 | 8 |
| Ysgol Feddygaeth - 40 credyd - PMXM03- Seiliau mewn Meddygaeth Glinigol ar gyfer Cymdeithion Meddygol 2 | 4 | 8 |
| Ysgol Feddygaeth - 40 credyd - PMXM04 - Sgiliau Clinigol Cymdeithion Meddygol 2 | 4 | 8 |
Ar gyfer asesiadau, rhoddir rhagoriaeth i'r 25% uchaf o ran y Prawf Cynnydd a'r OSCE. Rhoddir teilyngdod i'r 25% nesaf o fyfyrwyr (h.y. y 25-50% gorau) a bydd y gweddill yn cael marc pasio.
Ar gyfer y modiwl ymarfer ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth, rhoddir rhagoriaeth i unrhyw fyfyrwyr sy'n cael mwy na 70% yn yr asesiad, teilyngdod i'r rhai sy'n cael 60-69% a safon basio i'r rhai sy'n cael 50-59%. Caiff cyfanswm y marciau ar gyfer yr holl fyfyrwyr ei gyfrifo a bydd y marciau teilyngdod a rhagoriaeth yn cael eu dyfarnu yn ôl y tabl isod.
| Rhagoriaeth | 28 - 36 |
|---|---|
| Teilyngdod | 18 - 27 |
| Pasio | 0 -17 |