Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Bydd Wythnos Croeso ar gyfer Medi 2026 yn digwydd o'r 21af tan y 25ain o Fedi 2026, gyda nifer o ddigwyddiadau'n digwydd bob dydd. Dylid gwneud ymdrech gennych i fynychu'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u rhestru yn y dyddiadur isod


Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Amserlen Sefydlu

Dydd Mercher 23ain Medi

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol


12:00 - 13:00 - BSc Peirianneg Meddalwedd Gymhwysol Croeso a Sefydlu – Kier Hardie 230, Campws Singleton

Ymuna â dy ffrindiau am gwis/ddigwyddiad cymdeithasol i groesawu pob myfyriwr newydd. Ffordd arbennig o ddechrau dy flwyddyn drwy gwrdd â ffrindiau newydd a meithrin rhwydweithiau newydd. Bydd cyfle hefyd i ennill gwobrau!

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!