Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Bydd Wythnos Croeso ar gyfer Medi 2026 yn digwydd o'r 21af tan y 25ain o Fedi 2026, gyda nifer o ddigwyddiadau'n digwydd bob dydd. Dylid gwneud ymdrech gennych i fynychu'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u rhestru yn y dyddiadur isod


Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 21ain Medi

Mae'r amserlen hon yn berthnasol i'r bobl sy'n dechrau ar Daeryddiaeth Blwyddyn 0 (Sylfaen) & 1.  

10:00 - 16:00 - Croeso a Sefydlu, Blwyddyn 0 ac 1 - Wallace, Lecture Theatre

Cwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr cwrs am y tro cyntaf yn ogystal â Staff Academaidd Allweddol o'ch Adran a fydd yn eich cyflwyno i'ch rhaglen astudio, yn rhoi i chi wybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau cwrs defnyddiol.  

*Cyn i ti gyrraedd, gwna yn siŵr dy fod ti'n archwilio pa bethau eraill sy'n digwydd y tu allan i'th adran, a'r ffyrdd y gelli di baratoi ar gyfer dy raglen unwaith dy fod ti'n cofrestru. Awgrym euraidd: clustnoda'r tair tudalen isod i gychwyn arni!