Mynd i Ddigwyddiadau'r Wythnos Groeso

Bydd Wythnos Croeso ar gyfer Medi 2026 yn digwydd o'r 21af tan y 25ain o Fedi 2026, gyda nifer o ddigwyddiadau'n digwydd bob dydd. Dylid gwneud ymdrech gennych i fynychu'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u rhestru yn y dyddiadur isod


Mae digwyddiadau yn gyfle i gael cipolwg ar dy raglen radd ddewisol, gofyn cwestiynau a dod i adnabod staff a myfyrwyr yn dy adran. Edrychwn ymlaen at gwrdd â thi!

Oes angen help arnat ti i ddod o hyd i leoedd ar y campws? Gweler y mapiau o Gampws Singleton a Champws y Bae i'th helpu i ddod o hyd i leoliadau pob sesiwn.

Amserlen Sefydlu

Dydd Llun 21ain Medi

9:00 - 15:00 - Croeso a Sefydlu, Blwyddyn 1 - B001, Adeliad Canolog Peirianneg

Cwrdd â'ch cyd-fyfyrwyr cwrs am y tro cyntaf yn ogystal â Staff Academaidd Allweddol o'ch Adran a fydd yn eich cyflwyno i'ch rhaglen astudio, yn rhoi i chi wybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau cwrs defnyddiol.

Fel rhan o'r gweithgareddau sefydlu byddwch yn gweithio mewn labordy. Er mwyn sicrhau eich diogelwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gwisgo:

  • Esgidiau cadarn  (dim sandalau nac esgidiau agored)
  • Trowsus (dim siorts, sgertiau, na dillad eraill sy'n gadael y coesau'n agored)

Darperir cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol yn ystod y sesiwn.

Dydd Mercher 23ain Medi Dydd Iau 24eg Medi