Dr Jodie Croxall
Rwy'n Gyd-gyfarwyddwr y Rhaglen PGCert Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae fy ngyrfa academaidd yn rhychwantu 16 o flynyddoedd gyda phrofiad helaeth yn arwain rhaglenni proffesiynol ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Rwyf wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, partneriaid yn y GIG a sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau bod addysg yn cyd-fynd yn gadarn â blaenoriaethau ymarfer a pholisi.
Mae fy arbenigedd yn ymwneud â datblygu a chyfarwyddo cyrsiau sy'n paratoi ymarferwyr am rolau cymhleth ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ogystal â'm gwaith yn Abertawe, rwyf wedi gweithio mewn rolau uwch ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Academaidd ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol ac yn Athro Cysylltiol. Rwyf wedi bod yn rhan allweddol o ddatblygu rhaglenni, dylunio'r cwricwlwm, sicrwydd ansawdd a phrofiad myfyrwyr ar draws ystod o raglenni proffesiynol.
Yn ogystal â'm gwaith academaidd, rwy'n Rheolwr Ysbyty (y Ddeddf Iechyd Meddwl) ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy'n cryfhau ymhellach fy nghysylltiadau â chyfraith ac ymarfer iechyd meddwl.
Des i addysg uwch fel myfyriwr aeddfed, sydd wedi llywio fy ngwaith addysgu ac ymchwil i ehangu cyfranogiad a phrofiadau myfyrwyr anhraddodiadol. Mae fy niddordebau ymchwil ehangach yn cynnwys profedigaeth, poblogaethau bregus ac anghydraddoldebau iechyd. Rwy'n Uwch-gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac rwyf wedi ennill gwobrau am ragoriaeth mewn addysgu a chyflogadwyedd myfyrwyr.
E-bost: j.croxall@abertawe.ac.uk
Dr Sue Carnes Chichlowska
Rwy'n Gyd-gyfarwyddwr y Rhaglen PGCert Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP) ym Mhrifysgol Abertawe, yn gweithio gyda Jodie Croxall. Mae fy ngyrfa'n rhychwantu addysg, ymarfer iechyd meddwl ac iechyd cyhoeddus rhyngwladol gyda ffocws cyson ar wella mynediad at gymorth seicolegol a chryfhau'r gweithlu iechyd meddwl.
Rwyf wedi gweithio'n lleol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel Ymarferydd ac Ymchwilydd Iechyd Meddwl, gan ddatblygu cysylltiadau cryf rhwng astudiaethau academaidd ac ymarfer clinigol. Yn rhyngwladol, arweiniais raglen gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus yng Ngholeg Meddygaeth Canolbarth Affrica, lle y gwnes i hefyd gyd-greu rhaglen Meistr mewn Seicoleg Glinigol, gan helpu i ehangu cyfleoedd hyfforddiant iechyd meddwl.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rwy’n arwain yr Uned Iechyd Meddwl yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae fy ngwaith ymchwil wedi canolbwyntio ar iechyd meddwl y cyhoedd, mynediad at therapïau seicolegol a meithrin gallu ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Rwy'n Uwch-gymrawd o’r Academi Addysg Uwch ac mae gennyf PhD, MSc, BSc (Cydanrhydedd) a TAR.
E-bost: s.c.chichlowska@abertawe.ac.uk
Ynghyd â Chyd-gyfarwyddwyr y rhaglen, bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu gan ystod eang o gyfranwyr gwadd, gan gynnwys ymarferwyr AMHP profiadol, arbenigwyr cyfreithiol a gweithwyr proffesiynol eraill ag arbenigedd sy'n berthnasol i ymarfer AMHP.