Llongyfarchiadau i chi ar sicrhau lle i astudio Mhrifysgol Abertawe
Croeso
Ar ran tîm y cwrs, mae'n bleser gennyf eich croesawu chi i'r MSc mewn Ymarfer Proffesiynol Uwch.
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn ystod yr wythnos sefydlu ac at eich cefnogi chi drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch ymarfer proffesiynol drwy ddysgu hyblyg sy'n seiliedig ar waith. Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau'r profiad, ac yn ei weld yn wobrwyol ac yn berthnasol i'ch nodau proffesiynol.
Pwysig: Wythnos Sefydlu Orfodol
Dyddiad ac Amser: 5-9 Hydref 2026, 09.30-16.00 bob dydd
Lleoliad: Campws Singleton (manylion yr ystafell isod)
Mae'r Wythnos Sefydlu yn rhan hanfodol o'r rhaglen a bydd yn eich paratoi chi ar gyfer astudiaethau llwyddiannus ar lefel 7. Mae presenoldeb yn orfodol am yr wythnos gyfan. Os na allwch fod yn bresennol, bydd eich lle ar y cwrs yn cael ei ohirio i'r flwyddyn academaidd nesaf.
Yn ystod yr wythnos, byddwch chi'n:
- Cwrdd â thîm y cwrs a'ch Tiwtor Personol
- Datblygu eich sgiliau ysgrifennu academaidd a meddwl yn feirniadol
- Dysgu am ddysgu yn seiliedig ar waith, paratoi gwaith i'w asesu a dysgu gweithredol
- Archwilio pynciau allweddol megis contractau dysgu, ysgrifennu traethiadol, casglu tystiolaeth a gofynion asesiad
- Cwblhau gweithgareddau dan arweiniad a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich astudiaethau
Cyn i chi gyrraedd
Sicrhewch eich bod:
- Wedi cofrestru'n llawn ar y rhaglen ac ar fodiwl SHGM90 Dechrau eich datblygiad proffesiynol
- Wedi cael mynediad at Canvas ac wedi adolygu deunyddiau'r wythnos sefydlu
- Yn dod â gliniadur, tabled neu ddyfais symudol i'r wythnos sefydlu
Eich Cymuned Ddysgu
Byddwch chi'n ymuno â chymuned amrywiol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad i'r rhaglen. Rydym yn eich annog i ddysgu gan eich gilydd, rhannu eich profiadau a gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael drwy gydol eich astudiaethau. Mae'r rhaglen wedi'i dylunio i gefnogi datblygiad unigol a dysgu cydweithredol, gan eich helpu i feithrin rhwydweithiau proffesiynol gwerthfawr ar hyd y ffordd.
Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni
- Amgylchedd dysgu cefnogol a hyblyg
- Tiwtor Personol er mwyn tywys eich taith ddysgu
- Goruchwyliaeth academaidd ac adborth drwy gydol y rhaglen
- Mynediad at ystod o adnoddau dysgu ar-lein
- Setiau Dysgu Gweithredol misol i rannu profiadau a dysgu gyda chyd-fyfyrwyr
- Cymorth a chyfeirio at wasanaethau perthnasol y Brifysgol pan fo angen
Beth rydym yn gofyn amdano gennych chi
- Cwblhau'r wythnos sefydlu a'r holl ddysgu dan arweiniad
- Ymgysylltu'n weithredol gyda'r Tiwtor Personol a gweithgareddau dysgu
- Gwneud defnydd llawn o Canvas a chyfleoedd dysgu gweithredol
- Bodloni dyddiadau cau asesiadau
- Rhoi gwybod i'ch Tiwtor Personol neu Gyfarwyddwr y Rhaglen os ydych chi'n wynebu anawsterau a allai effeithio ar eich astudiaethau
Rydym yn sylweddoli bod ein myfyrwyr yn cydbwyso eu hastudiaethau ochr yn ochr ag ymrwymiadau proffesiynol a phersonol heriol. Cofiwch na fyddwch chi'n ymgymryd â’r daith hon ar eich pen eich hun. Rydym yma i'ch cefnogi drwy gydol eich astudiaethau ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi yn ystod yr wythnos sefydlu.
Os oes gennych gwestiynau cyn i'r rhaglen ddechrau, mae croeso i chi gysylltu. Byddwn ni'n hapus i helpu.
Dymuniadau gorau
Sara
E-bost: s.n.galletly@abertawe.ac.uk
_________________________________________________________________________________________________________
Sara N. Galletly
Senior Lecturer in Professional and Workforce Development
Uwch-ddarlithydd mewn Datblygiad Proffesiynol a'r Gweithlu
Programme Director, MSc Enhanced Professional Practice
Cyfarwyddwr y Rhaglen, MSc Ymarfer Proffesiynol Uwch
Faculty of Medicine, Health and Life Science
-Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Room 210, Glyndŵr Building | Ystafell 210, Adeilad Glyndŵr
Prifysgol Abertawe | Swansea University
Singleton Park | Parc Singleton
Swansea | Abertawe
Cymru | Wales
SA2 8PP