Croeso i’r Ysgol

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso isod, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o'r gweithgareddau hyn â phosib. Mae'r sesiynau sy'n orfodol ar gyfer myfyrwyr newydd wedi'u nodi ar yr amserlen. Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 28ain o Fedi.

Dydd Mawrth 22 o Fedi

10:00yb-12:00yp  Sessiwn Croeso i’r Rhaglen **Orfodol**

Ystafell 103, Llawr Cyntaf, Adeilad Yr Ysgol Reolaeth

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs. 

 

12:00-2:00yp  Sesiwn Ymgysylltu â'r Rhaglen **Orfodol**

Ystafell 103, Llawr Cyntaf, Adeilad Yr Ysgol Reolaeth

Dewch i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs.

Dydd Iau 24ain o Fedi Dydd Gwener 25ain o Fedi