Gŵyl y Darlun Ehangach – Dathlu Ffydd a Diwylliant yn ein Cymuned
Mae Gŵyl y Darlun Ehangach yn ddathliad o'r amrywiaeth eang o ddiwylliannau yn Abertawe, gyda'r nod o addysgu'r rhai sydd â diddordeb mewn ehangu eu gorwelion. Mewn amgylchedd sy'n annog cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae Gŵyl y Darlun Ehangach yn hyrwyddo rhyddid a chyfle i staff a myfyrwyr rannu, archwilio, cwestiynu a deall y crefyddau a'r diwylliannau amrywiol sy'n cael eu cynrychioli yng nghymuned y campws a thu hwnt.
Mae Prifysgol Abertawe yn gartref i bobl o dros 120 o wledydd gwahanol a llawer o ffydd a chredoau gwahanol. Mae'r Gŵyl yn rhoi cyfle i ni ymgysylltu, dysgu a chyfrannu gan eraill; yn ogystal â rhoi cynnig ar fwyd gwych!
Cymryd rhan
Caiff Gŵyl y Darlun Ehgangach ei llywio gan y myfyrwyr sy'n cymryd rhan, ac mae angen eich help chi arnom i sicrhau bod digwyddiad eleni yn llwyddiant. P'un a hoffech chi gymryd rhan ar eich pen eich hun, gyda ffrind, neu fel rhan o gymdeithas myfyrwyr, mae digon o gyfleoedd i gyfrannu a helpu i ddathlu'r diwylliannau, y profiadau a'r straeon amrywiol o fewn ein cymuned.
Byddem wrth ein bodd yn clywed sut hoffech chi gymryd rhan. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â ni yn student-engagement@swansea.ac.uk i ddarganfod mwy.
Cystadleuaeth Ffotograffiaeth
Mae Cystadleuaeth Ffotograffau Gŵyl y Darlun Ehangach yn ôl am flwyddyn arall! Gan mai chi sy'n ganolbwynt i'r ŵyl hon, rydym am ddathlu'r bobl, y lleoedd, y traddodiadau a'r profiadau sy'n ffurfio ein cymuned amrywiol. Boed yn ddelwedd sydyn o fywyd bob dydd, yn foment deuluol arbennig, yn dirwedd o'ch gwlad enedigol, neu'n ddelwedd sy'n adlewyrchu eich diwylliant a'ch hunaniaeth, byddem wrth ein bodd yn gweld yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Mae gan ffotograffiaeth y pŵer i adrodd straeon, tanio sgyrsiau a'n helpu i ddysgu mwy am ein gilydd. Rhannwch lun sy'n dal beth mae cartref yn ei olygu i chi, yn amlygu eich treftadaeth, neu'n arddangos y bobl a'r atgofion sydd wedi llywio eich taith. Cliciwch drwodd am fanylion llawn ar sut i gystadlu ac am eich cyfle i gael eich gwaith i'w arddangos fel rhan o ŵyl eleni.
Cyflwynwch eich rysáit i'n Llyfr Coginio GDE
Oes gennych chi rysáit teuluol ffefrynn neu saig draddodiadol sy'n adrodd stori eich diwylliant?
Cyflwynwch eich rysáit i'w gynnwys yn ein Llyfr Coginio Diwylliannol arbennig ar gyfer Gŵyl y Darlun Ehangach, sy'n arddangos traddodiadau coginiol o bob gornel o'n cymuned.
Bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar y ryseitiau, ac fe gaiff un pryd buddugol ei ail-greu gan Brif Gogydd y Brifysgol! Bydd y myfyriwr a'i cyflwynodd hyd yn oed yn cael y cyfle i ymuno ag ef am brofiad unigryw 'Coginio gyda Carl', ac ennill credyd arlwyo gwerth £30.