Cyflwyno mewn cynadleddau
Mae mynychu a chyflwyno mewn cynadleddau’n ddisgwyliad cyffredin ar gyfer nifer o raglenni doethuriaeth. Yn y sesiwn hwn, byddwn yn trafod sut i baratoi, adnabod beth i’w drafod, a sut i ddefnyddio’r profiad i symud eich ymchwil ymlaen.
Campws Singleton
Dydd Llun 24ain Chwefror 2025
10:00 - 11:00 GMT

Sesh sgwrs wythnosol
Sesiwn anffurfiol i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg ar lafar. Dewch â gwaith, neu goffi – mae croeso mawr i bawb, beth bynnag eich lefel iaith!
Ystafell CAS 36, Bloc Stablau, Campws Singleton
Dydd Llun 24ain Chwefror 2025
12:00 - 13:00 GMT
.jpg)
Cyflwyniadau Grwp
Mae meistroli cyflwyniadau grŵp yn gofyn i chi ymarfer sgiliau trefniant a chydweithio penodol wrth baratoi a chyflwyno. Trafodwn y wahanol agweddau hyn yn y gweithdy hwn, yn ogystal â strategaethau ar gyfer cyfleu naws o undod a chymhwysedd yn eich cyflwyniad terfynol.
Campws Singleton
Dydd Llun 24ain Chwefror 2025
14:00 - 15:00 GMT

Tuesday 25th February 2025
Siarad yn hyderus
Mae’r gallu i gyflwyno ar lafar yn hyderus yn sgil gwerthfawr mewn unrhyw faes - yn y Brifysgol a thu hwnt. Os ydych yn nerfus wrth siarad yn gyhoeddus, neu’n poeni am safon eich iaith bydd y gweithdy hwn yn cynnig cefnogaeth ymarferol a fydd yn helpu chi i adnabod a meistroli eich arddull a llais cyflwyno.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 25ain Chwefror 2025
10:00 - 11:00 GMT

Cyflwyniadau effeithiol
Mae'r gweithdy hwn yn rhoi trosolwg cyffredinol o arfer gorau wrth baratoi ar gyfer cyflwyniad. Mae'n berffaith i'r rhai sydd ar fin rhoi cyflwyniad neu a hoffai ddiweddaru eu sgiliau.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 25ain Chwefror 2025
11:00 - 12:00 GMT

Ymarferwch eich cyflwyniad
Sesiwn ysgafn, cefnogol, lle cewch gyfle i ymarfer a derbyn adborth cyffredinol ar unrhyw agweddau o gyflwyno ar lafar, phrofi derbyn cwestiynnau, neu ymarfer trafod eich gwaith, boed trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg.
Campws Singleton
Dydd Mawrth 25ain Chwefror 2025
15:00 - 16:00 GMT

Thursday 27th February 2025
Strwythuro cyflwyniad cofiadol
Mae’r gallu i fathu sylw cynulleidfa a’i gadw trwy gydol eich cyflwyniad yn sgil amhrisiadwy. Yn y sesiwn hwn, edrychwn ar strategaethau sy’n gweithio, camgymeriadau cyffredin i’w hosgoi, a deall sut i strwythuro cyflwyniadau sy’n cyfathrebu eich neges yn effeithiol.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Iau 27ain Chwefror 2025
10:00 - 11:00 GMT

Friday 28th February 2025
Cyflwyniadau arlein
Bydd y gweithdy hwn yn ystyried gwahanol lwyfannau a meddalwedd ar gyfer cyflwyno ar-lein, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r offer yn effeithiol ac yn hyderus, goresgyn a pharatoi ar gyfer heriau technolegol, a chyngor ymarferol i’w hystyried ynglŷn â’ch arddull cyflwyno.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 28ain Chwefror 2025
12:00 - 13:00 GMT

Monday 3rd March 2025
Uniondeb Academaidd
Dysgwch am y disgwyliadau ac arferion astudio da sy’n rhan hanfodol o waith academaidd er mwyn osgoi problemau fel llên-ladrad.
Campws Singleton
Dydd Llun 3ydd Mawrth 2025
11:00 - 12:00 GMT

Sesh sgwrs wythnosol
Sesiwn anffurfiol i ymarfer a datblygu eich sgiliau Cymraeg ar lafar. Dewch â gwaith, neu goffi – mae croeso mawr i bawb, beth bynnag eich lefel iaith!
Ystafell CAS 36, Bloc Stablau, Campws Singleton
Dydd Llun 3ydd Mawrth 2025
12:00 - 13:00 GMT
-1.jpg)
Gweithio’n ddwyieithog
Dysgwch ddulliau i gyfoethogi eich gweithio dwyieithog. Trafodwn strategaethau aralleirio a dyfynnu, cyfeirnodi a defnyddio ffynonellau allanol, ac ymarfer uniondeb academaidd.
Campws Singleton
Dydd Llun 3ydd Mawrth 2025
14:00 - 15:00 GMT

Friday 7th March 2025
Moesau ymchwil
Sesiwn drafod a holi ac ateb lle byddwn yn egluro'r perthynas rhwng dulliau ymchwil, a'r broses o gasglu data, gan gynnwys y penderfyniadau ac ymresymu sy'n rhan o'r broses fethodolegol. Byddwn yn trafod eich anghenion ymchwil penodol fel rhan o'r sesiwn.
Ar-lein trwy Zoom
Dydd Gwener 7fed Mawrth 2025
12:00 - 13:00 GMT
