Rheoliadau Penodol ar gyfer:
BSc Nyrsio (Oedolyn)
BSc Nyrsio (Plentyn)
BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl)
BSc Nyrsio rhan amser (Oedolyn)
BSc Nyrsio rhan amser (Iechyd Meddwl)
BMid Bydwreigiaeth
Diploma Gwyddor Barafeddygol
Bsc Gwyddor Barafeddygol
BSc Gwaith Cymdeithasol (llawn amser a rhan amser)
S1
Yn gyffredinol, caniateir hyd at ddau gais i ymgeiswyr wneud yn iawn am fethiannau mewn unrhyw gydran asesu modiwl cyhyd ag y gellir llwyddo i wneud hynny o fewn dwy sesiwn academaidd ac o fewn cyfyngiad amser y radd. Cynigir y cais cyntaf i wneud yn iawn am fethiant fel arfer mor agos â phosib i ddyddiad yr asesiad arferol (fel arfer o fewn 8 i 10 wythnos).
S2
Yn achos methiant mewn cyfansoddyn ymarfer ar y rhaglen BSc mewn Therapi Galwedigaethol, caniateir i ymgeiswyr gael un ymgais yn unig i wneud iawn am y methiant, fel rheol yn ystod yr un sesiwn academaidd. Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â’r lleoliad ymarfer llawn er mwyn cyflwyno’r asesiad(au) ymarfer.
S3
Bydd myfyrwyr sy’n astudio’r BSc mewn Therapi Galwedigaethol nad ydynt yn llwyddo mewn dau fodiwl ymarfer olynol ar yr ymgais cyntaf yn cael eu tynnu’n ôl o’r rhaglen.
S4
Gellir cynnig ail gais i wneud iawn am fethiant ar argymhelliad Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol.
Bydd myfyrwyr sy'n gwneud iawn am eu methiant ar yr ail gais yn cael eu hystyried yn "ymgeiswyr allanol" a chaiff eu dyfarniad bwrsariaeth ei atal.
Unwaith y penderfynwyd bod ymgeisydd wedi gwneud iawn am y methiant yn llwyddiannus ac wedi cwblhau'r lefel astudio, bydd yn cael caniatâd i ailddechrau ei astudiaethau ar adeg y bernir ei fod yn briodol gan y Gyfadran.
S5 Asesiad Ymarfer
S5.1 Therapi Galwedigaethol
Gall myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni therapi galwedigaethol fethu un lleoliad gwaith yn unig yn ystod cyfnod y rhaglen.
Os bydd ail leoliad gwaith yn cael ei fethu yna bydd angen iddynt dynnu'n ôl o'r rhaglen.
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr ohirio eu hastudiaethau dros dro a chwblhau'r modiwl lleoliad gwaith yn y sesiwn academaidd nesaf os nad ydynt yn cwblhau'r modiwl lleoliad gwaith yn llwyddiannus.
Nid oes modd i fyfyrwyr therapi galwedigaethol gario lleoliad gwaith sydd heb ei gwblhau i'r lefel astudio nesaf.
S5.2
Bydd gan fyfyrwyr ar raglenni proffesiynol eraill un cyfle yn unig i ailgyflwyno eu dogfen asesu ymarfer neu bortffolio asesiad clinigol yn ystod pob lefel astudio.
Nid oes angen i fyfyrwyr sydd wedi pasio pob cydran academaidd, ond sydd â chynnig a ohiriwyd ar eu PAD, ohirio eu hastudiaethau.
Yn yr achosion hynny bydd myfyrwyr lefel 4 neu 5 yn derbyn penderfyniad CARIO gan y bwrdd dilyniant a bydd caniatâd iddynt symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf.
Mae'n rhaid iddynt gyflwyno'r asesiad PAD a ohiriwyd ar ddiwedd pedair wythnos gyntaf y cyfle lleoliad dysgu nesaf. Bydd angen iddynt gwblhau hwn ochr yn ochr â'r dysgu ar gyfer y lefel astudio nesaf.
Bydd gan y myfyrwyr hynny nad ydynt yn llwyddo yng nghynnig cyntaf gohiriedig yr asesiad PAD ar ôl pedair wythnos gyntaf y lleoliad gwaith, wythnos ychwanegol i gwblhau'r PAD.
Bydd y myfyrwyr hynny nad ydynt yn pasio'r asesiad PAD ar yr ail ymgais ar ôl pedair wythnos gyntaf y lleoliad gwaith yn cael eu tynnu'n ôl o'r rhaglen.
Bydd gan fyfyrwyr y flwyddyn olaf benderfyniad SUPP a byddant yn cael pedair wythnos ychwanegol o leoliad dysgu i gwblhau'r PAD a ohiriwyd.
Darperir wythnos ychwanegol os yw myfyrwyr yn methu cynnig cyntaf gohiriedig ar ôl y pedair wythnos hyn.
S6
Bydd yn rhaid i "Ymgeiswyr Allanol" gofrestru yn y Brifysgol a thalu ffïoedd ymgeiswyr allanol, fel y bo'n briodol. Ni chaniateir i ymgeiswyr o'r fath fynychu darlithoedd, derbyn gwersi neu gael mynediad at gyfleusterau Prifysgol. Disgwylir i ymgeiswyr allanol fynychu'r Brifysgol (neu leoliadau dynodedig eraill tebyg yn ôl y galw) er mwyn sefyll arholiadau neu gyflwyno asesiadau'n unig, yn ôl yr angen.
S7
Mewn amgylchia7dau eithriadol, y mae'n rhaid darparu tystiolaeth annibynnol ar eu cyfer, gellir caniatáu trydedd cais at wneud yn iawn am fethiant ar ddisgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol. Caniateir hyn dim ond os gellir ei gyflawni o fewn dwy sesiwn academaidd ac o fewn y cyfyngiad amser ar gyfer y radd. Caiff myfyrwyr o'r fath eu cofnodi o hyd fel ymgeiswyr allanol a chaiff eu dyfarniad bwrsariaeth ei atal.
S8
Caiff penderfyniadau ar ddilyniant ymgeisydd o un lefel astudio i lefel arall eu cymryd gan Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn unol â'r canllawiau dilynol:
| CYFLAWNWYD GAN YR YMGEISYDD |
PENDERFYNIAD DILYNIANT |
| Wedi llwyddo ym mhob cydran asesu sy'n cronni i wneud 120 credyd |
Wedi cwblhau Lefel Astudio |
| Wedi pasio llai na 120 o gredydau wedi derbyn un cyfle gan y Gyfadran/Ysgol i wneud yn iawn am fethiant/methiannau academaidd neu gais wedi'i ohirio |
Allanol – gwneud iawn am fethiannau fel ymgeisydd allanol |
| Wedi pasio llai na 120 o gredydau wedi derbyn dau gyfle gan y Gyfadran/Ysgol i wneud yn iawn am y methiant/methiannau academaidd |
Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ôl |
| Llwyddo ymhob cydran academaidd ond wedi methu'r asesiad ymarfer ddwywaith.Tynnu'n ôl o'r Brifysgol yn ofynnol. |
Gorfodi'r myfyriwr i dynnu'n ôl |
| Llwyddo ymhob cydran academaidd ond wedi cael estyniad ar gyfer o leiaf un o'r ddau gyfle cyflwyno |
Cario'r methiant ac mae'n ofynnol cyflwyno o fewn pedair wythnos gyntaf y cyfle lleoliad gwaith cyntaf yn y lefel astudio nesaf. |
Rheolau dilyniant penodol ar gyfer carfanau Gwyddor Parafeddygol cyn y broses o drawsnewid y cwricwlwm
Mae'r gwelliant dilyniant dros dro canlynol yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y Trawsnewidiad cyn y Cwricwlwm yn unig:
- BSc (Anrh.) Gwyddor Barafeddygol; a BSc (Anrh.) Gwyddor Barafeddygol ar gyfer myfyrwyr Technegwyr Meddygol Brys o garfannau Medi 2024 a Medi 2025 yn unig.
S.1 Dilyniant Amodol yn Dilyn Methiant ar yr Ail Ymgais
- Gall myfyriwr sydd wedi methu asesiad ar yr ail ymgais ac y byddai fel arfer yn ofynnol iddo ddod yn fyfyriwr allanol er mwyn gwneud trydedd ymgais, gael caniatâd, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Asesu, i symud ymlaen yn amodol i'r lefel astudio nesaf gyda'i garfan bresennol.
- Nid yw symud ymlaen yn amodol o dan y rheoliad hwn yn awtomatig, ac mae'n parhau i fod yn amodol ar gymeradwyaeth y Bwrdd Asesu perthnasol ac unrhyw weithdrefnau eraill y Brifysgol sy'n berthnasol.
- Bydd y trefniant arbennig hwn yn gymwys dim ond pan fydd y Bwrdd Asesu yn barnu bod swm y gwaith asesu sy'n weddill ac sy'n gofyn am drydydd ymgais yn gyfyngedig ac yn rheoladwy ochr yn ochr ag astudio ar y lefel ddilynol.Wrth wneud y penderfyniad hwn, rhaid i'r Bwrdd Asesu ystyried natur, maint a nifer y cydrannau asesu sy'n weddill, yn hytrach na gwerth credyd y modiwl (neu'r modiwlau) y maent yn rhan ohonynt yn unig.
- Ni fydd myfyrwyr sydd â swm sylweddol o waith asesu heb ei gwblhau, i'r graddau y byddai symud ymlaen yn creu baich asesu afresymol neu'n peryglu safonau academaidd neu broffesiynol, fel arfer yn gymwys i symud ymlaen yn amodol o dan y rheoliad hwn.
- Fel arfer, dylid cwblhau'r asesiad sy'n weddill ymhen pedair i chwe wythnos gyntaf y flwyddyn academaidd ddilynol, neu ar y cyfle asesu priodol cynharaf a gymeradwyir gan Gyfarwyddwr y Rhaglen a'r Bwrdd Asesu.
- Gall myfyriwr sy'n cwblhau'r asesiad sy'n weddill yn llwyddiannus ar y trydydd ymgais cymeradwy barhau ar y rhaglen, yn amodol ar gydymffurfio â holl ofynion eraill y rhaglen o ran asesiad, proffesiynoldeb, ymddygiad a dilyniant.
- Bydd angen i fyfyriwr sy'n methu'r asesiad sy'n weddill ar y trydydd ymgais, fel arfer, dynnu'n ôl o'r rhaglen, oni bai bod amgylchiadau esgusodol cymeradwy wedi'u derbyn yn unol â rheoliadau'r Brifysgol.
S.2 Amodau Dilyniant Amodol
Bydd myfyriwr a ganiateir i symud ymlaen o dan Reoliad S.1 yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:
- rhaid i’r myfyriwr fod wedi defnyddio ei ail ymgais asesu a pharhau’n gymwys am drydydd cynnig yn unol â’r rheoliadau perthnasol.
- rhaid i'r Bwrdd Asesu ystyried bod swm y gwaith asesu sy'n weddill yn ddigon cyfyngedig i ganiatáu dilyniant amodol heb greu baich asesu sylweddol;
- rhaid cwblhau'r asesiad(au) sy'n weddill cyn diwedd yr amserlen a bennir gan y Bwrdd Asesu;
- rhaid i'r myfyriwr ymgysylltu ag unrhyw drefniadau cymorth academaidd, clinigol, ymarfer-seiliedig, proffesiynol neu fugeiliol sy'n ofynnol gan y rhaglen;
- bydd parhad ar y rhaglen yn aros yn amodol hyd nes y bydd y gofyniad/gofynion asesu sy'n weddill wedi'u cwblhau'n llwyddiannus;ac
- fel arfer, bydd methu ar y trydydd ymgais cymeradwy yn arwain at gael eich tynnu oddi ar y rhaglen, oni bai bod amgylchiadau esgusodol cymeradwy yn berthnasol.
Adran S.3 Gofynion Asesu Ymarfer Clinigol
- Pan fo'r elfen sydd heb ei phasio yn Asesiad Ymarfer Clinigol (CPA), gall y Bwrdd Asesu ganiatáu i'r myfyriwr symud ymlaen yn amodol i'r lefel astudio nesaf a chario'r gofyniad CPA sydd heb ei gwblhau.
- Fel arfer, dylid cwblhau'r CPA sy'n weddill ymhen pedair wythnos o ddechrau'r bloc lleoliad cyntaf yn y flwyddyn academaidd ddilynol.
- Yn ystod y cyfnod hwn, rhaid i'r myfyriwr barhau i fodloni holl ofynion y rhaglen o ran proffesiynoldeb, ymarfer, ymddygiad, iechyd, cymeriad a lleoliadau.
- Bydd methu â chwblhau’r gofyniad CPA sy'n weddill yn unol â'r amserlen gymeradwyedig, neu fethu'r CPA ar yr ymgais asesu gymeradwyedig, fel arfer yn arwain at gael eich tynnu oddi ar y rhaglen, oni bai bod amgylchiadau amgylcheddol cymeradwy wedi'u derbyn yn unol â rheoliadau'r Brifysgol.
S.4 Safonau Academaidd a Phroffesiynol
- Nid yw'r gwelliant dilyniant dros dro hwn yn addasu nac yn dileu unrhyw ganlyniadau dysgu rhaglenni, canlyniadau dysgu modiwlau, safonau asesu, cymwyseddau proffesiynol, gofynion ymarfer na gofynion dyfarnu.
- Mae myfyrwyr yn parhau i fod yn destun i'r holl ofynion proffesiynol, rheoleiddiol a rhaglen a rhaid iddynt gwblhau'r holl asesiadau a chydrannau ymarfer gofynnol yn llwyddiannus er mwyn symud ymlaen a bod yn gymwys ar gyfer y dyfarniad.
S.5 Myfyrwyr sy'n Dychwelyd yn Dilyn Gohirio Astudiaethau
1.Pan fydd myfyriwr o garfan cyn y broses o Drawsnewid y Cwricwlwm yn atal ei astudiaethau ac yn dychwelyd yn ystod y cyfnod pontio, bydd y Bwrdd Asesu yn ystyried sefyllfa'r myfyriwr gan gyfeirio at:
-
- a. ddarpariaethau'r diwygiad hwn;
- b. proffil asesu'r myfyriwr;
- c. gofynion y rhaglen a phroffesiynol;ac
- d. argaeledd llwybr dychwelyd sy'n briodol yn academaidd.
2. Wrth wneud ei benderfyniad, gall y Bwrdd Asesu ystyried yr angen i osgoi anfantais academaidd lle byddai gweithredu'r trefniadau safonol myfyrwyr allanol neu fyfyrwyr sy'n dychwelyd fel arall yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr drosglwyddo i raglen Trawsnewid Cwricwlwm nad yw'n cyfateb.