Micheal Olwale
Micheal Olwale headshot
Degree
Hi

 

 

Dwi’n Iorwba Nigeraidd balch o Affrica, sy’n frwdfrydig am drawsnewid pobl a’r gymdeithas gan ddefnyddio technoleg fel yr offeryn craidd. Diolch i’m profiad sy’n rhychwantu sawl blwyddyn ym maes peirianneg feddalwedd, dwi’n mwynhau creu cymwysiadau newydd — er bod hyn yn cael ei ystyried yn gyfrifoldeb, mae’n digwydd bod yn un o’m hobïau 😊

BOD YN GYNRYCHIOLYDD PWNC

Fel cynrychiolydd pwnc, byddwn i mewn safle delfrydol i fynegi fy marn ond hefyd i gyfleu adborth pobl a myfyrwyr eraill ym maes Cyfrifiadureg.

Cynrychiolydd pwnc Cyfrifiadureg

CYFRIFOLDEBAU ALLWEDDOL

Fy mhrif gyfrifoldeb yw lleisio barn fy nghyd-fyfyrwyr drwy gasglu adborth ar eu profiadau a chodi pryderon â staff academaidd drwy gyfarfodydd ffurfiol a chyfathrebu’n rheolaidd. Dwi hefyd yn helpu i adnabod meysydd lle gellir gwella ein hamgylchedd ymchwil – gyda’r nod o wella lles academaidd a phersonol yn y gymuned PhD.

 

FY ASTUDIAETHAU PRESENNOL...

Yr hyn dwi’n ei garu fwyaf am fy nghwrs yw sut mae fy ymchwil yn cyd-fynd yn berffaith â’m nod hirdymor o ddatblygu technolegau meddygol sy’n gwella bywydau. Dwi’n ymchwilio i systemau trosglwyddo pŵer di-wifr ar gyfer dyfeisiau meddygol wedi’u mewnblannu – sef maes sy’n cyfuno peirianneg â chymwysiadau gofal iechyd yn y byd go iawn. Mae’n gyffrous gwybod y bydd fy ngwaith yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon o ran sut rydyn ni’n monitro ac yn trin cyflyrau critigol.

Contact