Croeso i’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi yn yr Wythnos Groeso. Bydd rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos a gobeithiwn y bydd hon yn rhoi digon o wybodaeth ac ysbrydoliaeth i chi wrth i chi ddechrau eich rhaglen astudio. Bydd llawer o gyfleoedd hefyd i gymdeithasu â'r myfyrwyr eraill ar eich cwrs a dysgu am y cymorth a fydd ar gael i chi wrth i chi astudio. 

Gallwch weld eich amserlen ar gyfer yr Wythnos Groeso isod, ac rydym yn eich annog i gymryd rhan mewn cynifer o'r gweithgareddau hyn â phosib. Mae'r sesiynau sy'n orfodol ar gyfer myfyrwyr newydd wedi'u nodi ar yr amserlen. Sylwer bod hon yn wahanol i'ch amserlen addysgu a fydd ar waith pan fydd y darlithoedd yn dechrau ddydd Llun 28ain o Fedi. 

Dydd Llun 21ain o Fedi

10:00 - 11:00 Sgwrs Groeso *Orfodol*

Adeilad Talbot, Llawr Gwaelod, Ystafell 047

Yn y sesiwn hon bydd rhagor o wybodaeth am eich cwrs a sut byddwch chi'n astudio. Byddwch yn dechrau dod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr ac yn ymgartrefu yn eich cymuned ddysgu.

 

11:00 - 13:00  Egwyl i gasglu cardia llyfrgell

 

13:00 - 14:00  Sesiwn Wyboadaeth *Orfodol*

Adeilad Talbot, Llawr Gwaelod, Ystafell 047

Yn y sesiwn hon byddwch yn cael gwybodaeth werthfawr am eich dysgu.

 

14:30 - 16:00  Sesiwn sefydlu ar y Rhaglen *Orfodol*

Adeilad Talbot, Llawr Gwaelod, Ystafell 047

Cyfle i gwrdd â chyfarwyddwr eich rhaglen, a fydd yn cyflwyno eich rhaglen astudio, yn darparu gwybodaeth academaidd allweddol ac yn eich cyfeirio at adnoddau'r cwrs.

Dydd Mawrth 22ain o Fedi Dydd Mercher 23ain o Fedi Dydd Iau 24ain o Fedi Dydd Gwener 25ain o Fedi